bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 4
Proverbs 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
1
Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.
2
Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.
3
Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.
4
Efe a'm dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.
5
Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.
6
Nac ymâd â hi, a hi a'th geidw: câr hi, a hi a'th wared di.
7
Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â'th holl gyfoeth cais ddeall.
8
Dyrchafa di hi, a hithau a'th ddyrchafa di: hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
9
Hi a rydd ychwaneg o ras i'th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.
10
Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.
11
Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.
12
Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.
13
Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14
Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.
15
Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.
16
Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a'u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn.
17
Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.
18
Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
19
Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20
Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.
21
Na ad iddynt fyned ymaith o'th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.
22
Canys bywyd ydynt i'r neb a'u caffont, ac iechyd i'w holl gnawd.
23
Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
24
Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
25
Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th flaen.
26
Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.
27
Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31