bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 29
Proverbs 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
1
Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.
2
Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.
3
Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.
4
Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a'i dinistria hi.
5
Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i'w draed ef.
6
Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.
7
Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.
8
Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.
9
Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.
10
Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef.
11
Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a'i hatal hyd yn ôl.
12
Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.
13
Y tlawd a'r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a'r ARGLWYDD a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.
14
Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.
15
Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.
16
Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.
17
Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i'th enaid.
18
Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.
19
Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.
20
A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.
21
Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o'i febyd, o'r diwedd efe a fydd fel mab iddo.
22
Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a'r llidiog sydd aml ei gamwedd.
23
Balchder dyn a'i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.
24
Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.
25
Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.
26
Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.
27
Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31