bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 18
Proverbs 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
1
Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.
2
Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i'w galon ei datguddio ei hun.
3
Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.
4
Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.
5
Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.
6
Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a'i enau a eilw am ddyrnodiau.
7
Genau y ffôl yw ei ddinistr, a'i wefusau sydd fagl i'w enaid.
8
Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.
9
Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treulgar.
10
Tŵr cadarn yw enw yr ARGLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.
11
Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.
12
Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.
13
Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.
14
Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd?
15
Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.
16
Rhodd dyn a ehanga arno, ac a'i dwg ef gerbron penaethiaid.
17
Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef.
18
Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.
19
Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a'u hymryson sydd megis trosol castell.
20
A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.
21
Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a'r rhai a'i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.
22
Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.
23
Y tlawd a ymbil; a'r cyfoethog a etyb yn erwin.
24
Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31