bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 6
Proverbs 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 7 →
1
Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,
2
Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.
3
Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â'th gymydog.
4
Na ddyro gwsg i'th lygaid, na hun i'th amrantau.
5
Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6
Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:
7
Nid oes ganddo neb i'w arwain, i'w lywodraethu, nac i'w feistroli;
8
Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.
9
Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o'th gwsg?
10
Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu.
11
Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.
12
Dyn i'r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn.
13
Efe a amneidia â'i lygaid, efe a lefara â'i draed, efe a ddysg â'i fysedd.
14
Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.
15
Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16
Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:
17
Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a'r dwylo a dywalltant waed gwirion,
18
Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,
19
Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a'r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20
Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.
21
Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.
22
Pan rodiech, hi a'th gyfarwydda; pan orweddych, hi a'th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi.
23
Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg:
24
I'th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.
25
Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â'i hamrantau.
26
Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr.
27
A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad?
28
A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed?
29
Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân.
30
Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn:
31
Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.
32
Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a'i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun.
33
Archoll a gwarth a gaiff efe; a'i gywilydd ni ddileir.
34
Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.
35
Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31