bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 7
Proverbs 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
1
Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.
2
Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a'm cyfraith fel cannwyll dy lygad.
3
Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.
4
Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:
5
Fel y'th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â'r ymadrodd gwenieithus.
6
Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,
7
A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,
8
Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i'w thŷ hi,
9
Yn y cyfnos gyda'r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:
10
Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.
11
(Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:
12
Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)
13
Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,
14
Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:
15
Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.
16
Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.
17
Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.
18
Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.
19
Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:
20
Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.
21
Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.
22
Efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi:
23
Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
24
Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.
25
Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.
26
Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi.
27
Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31