bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 20
Proverbs 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
1
Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
2
Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a'i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.
3
Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.
4
Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.
5
Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a'i tyn allan.
6
Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?
7
Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.
8
Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â'i lygaid bob drwg.
9
Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?
10
Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o'r ddau.
11
Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.
12
Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o'r ddau.
13
Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.
14
Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r neilltu, efe a ymffrostia.
15
Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.
16
Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.
17
Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graean.
18
Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.
19
Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.
20
Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.
21
Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.
22
Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac efe a'th achub.
23
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.
24
Oddi wrth yr ARGLWYDD y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o'i ffordd ei hun?
25
Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.
26
Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.
27
Cannwyll yr ARGLWYDD yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.
28
Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a'i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.
29
Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.
30
Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31