bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 25
Proverbs 25
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 26 →
1
Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.
2
Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.
3
Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.
4
Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof arian lestr.
5
Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a'i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.
6
Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr:
7
Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na'th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.
8
Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.
9
Ymresyma â'th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall:
10
Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith.
11
Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.
12
Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.
13
Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.
14
Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.
15
Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.
16
Pan gaffech fêl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.
17
Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a'th gasáu.
18
Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.
19
Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.
20
Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist.
21
Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i'w hyfed:
22
Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a'r ARGLWYDD a dâl i ti.
23
Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.
24
Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
25
Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.
26
Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.
27
Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw.
28
Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31