bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 21
Proverbs 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
1
Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a'i try hi lle y mynno.
2
Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.
3
Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4
Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
5
Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.
6
Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.
7
Anrhaith yr annuwiol a'u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.
8
Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.
9
Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
10
Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.
11
Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.
12
Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.
13
Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.
14
Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.
15
Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.
16
Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.
17
Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.
18
Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a'r troseddwr dros yr uniawn.
19
Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon.
20
Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a'u llwnc hwynt.
21
Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.
22
Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.
23
Y neb a gadwo ei enau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.
24
Y balch a'r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.
25
Deisyfiad y diog a'i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:
26
Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.
27
Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?
28
Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.
29
Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.
30
Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.
31
Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr ARGLWYDD.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31