bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 19
Proverbs 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 20 →
1
Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.
2
Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a'r hwn sydd brysur ei draed a becha.
3
Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a'i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.
4
Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.
5
Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.
6
Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i'r hael.
7
Holl frodyr y tlawd a'i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato.
8
A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.
9
Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.
10
Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.
11
Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.
12
Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt.
13
Mab ffôl sydd orthrymder i'w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.
14
Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr ARGLWYDD yw gwraig bwyllog.
15
Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna.
16
Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.
17
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r ARGLWYDD; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn.
18
Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i'w ddifetha.
19
Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a'i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.
20
Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.
21
Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.
22
Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na'r gŵr celwyddog.
23
Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a'r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.
24
Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.
25
Taro watwarwr, a'r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.
26
Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr.
27
Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28
Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd.
29
Barn sydd barod i'r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31