bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 23
Proverbs 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
1
Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron:
2
A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig.
3
Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.
4
Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.
5
A beri di i'th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua'r wybr.
6
Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo'i ddanteithion ef.
7
Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a'i galon heb fod gyda thi.
8
Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a'th eiriau melys a golli.
9
Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.
10
Na symud mo'r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:
11
Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.
12
Gosod dy galon ar addysg, a'th glustiau ar eiriau gwybodaeth.
13
Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.
14
Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.
15
Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha;
16
Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.
17
Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr ARGLWYDD yn hyd y dydd.
18
Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad.
19
Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd.
20
Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig.
21
Canys y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.
22
Gwrando ar dy dad a'th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.
23
Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.
24
Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a'r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o'i blegid.
25
Dy dad a'th fam a lawenycha; a'r hon a'th ymddûg a orfoledda.
26
Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.
27
Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.
28
Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.
29
I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?
30
I'r neb sydd yn aros wrth y gwin: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.
31
Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.
32
Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.
33
Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd.
34
Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.
35
Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a'i ceisiaf drachefn.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31