bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 1
Matthew 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
1
Llyfr cenedliad Iesu Grist, mab Dafydd, mab Abraham.
2
Abraham a genedlodd Isaac; ac Isaac a genedlodd Jacob; a Jacob a genedlodd Judah a'i frodyr;
3
a Judah a genedlodd Phares a Zarah o Tamar; a Phares a genedlodd Hesron; ac Hesron a genedlodd Ram;
4
a Ram a genedlodd Aminadab; ac Aminadab a genedlodd Nahson; a Nahson a genedlodd Salmon;
5
a Salmon a genedlodd Boaz o Rahab; a Boaz a genedlodd Obed o Ruth;
6
ac Obed a genedlodd Jesse; a Jesse a genedlodd Dafydd Frenin; a Dafydd a genedlodd Solomon o weddw Urïas;
7
a Solomon a genedlodd Rehoboam; a Rehoboam a genedlodd Abïah; ac Abïah a genedlodd Asa;
8
Ac Asa a genedlodd Jehosaphat; a Jehosaphat a genedlodd Joram;
9
a Joram a genedlodd Uzzïah; ac Uzzïah a genedlodd Jotham; a Jotham a genedlodd Ahaz;
10
ac Ahaz a genedlodd Hezecïah; a Hezecïah a genedlodd Manasseh; a Manasseh a genedlodd Amon; ac Amon a genedlodd Josiah;
11
a Josiah a genedlodd Jechonïah a'i frodyr, ar adeg y caethgludiad i Babilon.
12
Ac wedi y caethgludiad i Babilon, Jechoniah a genedlodd Salathiel; a Salathiel a genedlodd Zorobabel;
13
a Zorobabel a genedlodd Abïud; ac Abïud a genedlodd Eliacim;
14
ac Eliacim a genedlodd Azor; ac Azor a genedlodd Sadoc; a Sadoc a genedlodd Achim; ac Achim a genedlodd Elïud;
15
ac Elïud a genedlodd Eleazar; ac Eleazar a genedlodd Matthan; a Matthan a genedlodd Jacob;
16
a Jacob a genedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.
17
Yr holl genedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, oeddynt bedair cenedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon, pedair cenedlaeth ar ddeg; ac o'r caethgludiad i Babilon hyd y Crist, pedair cenedlaeth ar ddeg.
18
A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Mair ei fam ef, wedi ei dyweddïo â Joseph, cyn eu dyfod hwy yn nghyd, a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân.
19
A Joseph ei gwr hi, yr hwn oedd ddyn cyfiawn, ac yn anfoddlon i'w gwneyd yn esiampl cyhoeddus, a ewyllysiai ei gollwng ymaith yn ddirgel.
20
Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, fab Dafydd, nac ofna gymmeryd atat Mair dy wraig, canys yr hyn a genedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.
21
A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU; oblegyd EFE a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.
22
A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y Proffwyd, gan ddywedyd,
23
Wele, Y Forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i ddeongli ydyw, Duw gyda ni.
24
A Joseph, pan gyfododd o'i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ato ei wraig;
25
ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef IESU.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28