bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 7
Matthew 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
1
Na fernwch, fel na'ch barner.
2
Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir, ac â pha fesur y mesuroch y mesurir i chwithau.
3
A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd ac nad wyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
4
Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele, y trawst yn dy lygad dy hun?
5
O ragrithiwr! bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.
6
Na roddwch yr hyn sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt un amser eu sathru â'u traed, a throi a'ch rhwygo chwi.
7
Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
8
Canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn, a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
9
Neu a oes dyn o honoch, yr hwn, os gofyn ei fab iddo dorth, a rydd efe iddo garreg?
10
Neu os gofyn iddo hefyd bysgodyn, a rydd efe sarff iddo?
11
Os chwychwi, gan hyny, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?
12
Gan hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch i ddynion eu gwneuthur i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw y Gyfraith a'r Proffwydi.
13
Ewch i fewn drwy y porth cyfyng, canys llydan yw y porth ac eang yw y ffordd sydd yn arwain ymaith i'r Golledigaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi.
14
Oblegyd cul yw y porth a chyfyngedig yw y ffordd sydd yn arwain i'r Bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.
15
Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddifewn y maent yn fleiddiaid rheibus.
16
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A ydynt yn casglu grawnsypiau oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall?
17
Felly, pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren gwael sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
18
Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg na phren gwael ffrwythau da.
19
Pob pren heb ddwyn ffrwyth da a dorir i lawr ac a deflir i dân.
20
Am hyny, yn wir, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21
Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i fewn i Deyrnas Nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr Hwn sydd yn y Nefoedd.
22
Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom trwy dy enw di? A thrwy dy enw di y bwriasom allan gythreuliaid? Ac yn dy enw di y gwnaethom lawer o weithredoedd nerthol?
23
Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabuom chwi erioed: ewch ymaith oddiwrthyf, y rhai a weithredwch annghyfiawnder.
24
Pob un, gan hyny, sydd yn gwrandaw fy ngeiriau [hyn], ac yn eu gwneuthur, a gyffelybir i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig;
25
a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac ni syrthiodd, oblegyd yr oedd wedi ei sylfaenu ar y graig.
26
A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod;
27
a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.
28
A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, y torfeydd a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef;
29
canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu Hysgrifenyddion hwynt.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28