bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 19
Matthew 19
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i gyffiniau Judea, y tu hwnt i'r Iorddonen.
2
A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
3
A daeth Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd, A ydyw gyfreithlawn i ddyn ysgar â'i wraig am bob achos?
4
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u creodd hwynt o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a banyw ac a ddywedodd,
5
Oblegyd hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant un cnawd;
6
fel nad ydynt mwyach yn ddau, ond un cnawd. Yr hyn, gan hyny, a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.
7
Y maent hwythau yn dywedyd wrtho, Paham, gan hyny, y gorchymynodd Moses roddi iddi ysgrif ysgar, a'i gollwng ymaith?
8
Ac efe a ddywed wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd. Ond o'r dechreu nid oedd felly.
9
Eithr meddaf i chwi, Pwy bynag a ysgaro â'i wraig, nid am odineb, ac a briodo un arall, y mae yn gwneuthur godineb; [ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd yn gwneuthur godineb.]
10
Ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig, nid buddiol priodi.
11
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y mae wedi ei roddi iddynt.
12
Canys y mae eunuchiaid y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas Nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.
13
Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y gosodai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai; ond y Dysgyblion a'u ceryddasant hwynt.
14
Eithr yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain, ac na rwystrwch hwynt i ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd.
15
Ac efe a osododd ei ddwylaw arnynt, ac a aeth ymaith oddiyno.
16
Ac wele un a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol?
17
Ac efe a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofyni â mi yn nghylch y Da? Un yw y Da; ond, os ewyllysi fyned i fewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion.
18
Yntau a ddywed wrtho, Pa rai? Yr Iesu a ddywedodd, Hwn, Na lofruddia, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha,
19
Anrhydedda dy dad a'th fam, ac, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.
20
Y gwr ieuanc a ddywed wrtho, Y rhai hyn oll a gedwais; yn mha beth etto wyf ddiffygiol?
21
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd; a thyred, canlyn fi.
22
A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd iddo feddiannau lawer.
23
A'r Iesu a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Yn wir, meddaf i chwi, Yn anhawdd yr ä goludog i fewn i Deyrnas Nefoedd.
24
A thrachefn meddaf i chwi, Rhwyddach yw i gamel fyned i fewn drwy grai y nodwydd nag i oludog fyned i fewn i Deyrnas Dduw.
25
A phan glybu ei Ddysgyblion, hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig?
26
A'r Iesu a edrychodd ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion hyn sydd anmhossibl, ond gyda Duw pob peth sydd bossibl.
27
Yna Petr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni a adawsom bob peth ac a'th ganlynasom di; pa beth, gan hyny, a fydd i ni?
28
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch I yn yr Ail‐enedigaeth, pan eisteddo Mab y Dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd eich hunain hefyd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
29
A phob un a'r a adawodd frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, neu dai, er mwyn fy enw I, a dderbynia lawer mwy, ac a etifedda fywyd tragwyddol.
30
Ond llawer fyddant olaf sydd flaenaf, a blaenaf sydd olaf.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28