bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 2
Matthew 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
Ac wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea, yn nyddiau Herod frenin, wele, Magiaid o'r Dwyrain a ddaethant i Jerusalem,
2
gan ddywedyd, Pa le y mae Brenin yr Iuddewon, yr hwn a anwyd? Canys gwelsom ei Seren ef yn y Dwyrain, a daethom i'w addoli ef.
3
A phan glybu Herod frenin, efe a gythryblwyd, a holl Jerusalem gydag ef.
4
A chan ddwyn yn nghyd yr holl Archoffeiriaid ac Ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid y Crist.
5
A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea, canys felly yr ysgrifenwyd trwy y proffwyd,
6
“A thithau, Bethlehem, tir Judah, nid wyt o gwbl y lleiaf yn mhlith tywysogion Judah, canys allan o honot ti y daw Arweinydd, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”
7
Yna Herod a alwodd y Magiaid yn ddirgel, a mynodd wybod yn fanwl ganddynt amser y seren a ymddangosodd.
8
A chan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf finau hefyd a'i addoli ef.
9
A hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant i'w ffordd; ac wele y Seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.
10
A phan welsant y Seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11
Ac wedi dyfod i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a chan syrthio i lawr, hwy a'i haddolasant ef, a chan agor eu trysorau, hwy a offrymasant iddo aur, a thus, a myrr.
12
Ac wedi derbyn cyfarwyddyd mewn breuddwyd na ddychwelent at Herod, ar hyd ffordd arall hwy a ymadawsant i'w gwlad.
13
Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys Herod sydd ar geisio y mab bychan i'w ddyfetha ef.
14
Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft,
15
ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd drwy y proffwyd, gan ddywedyd, “O'r Aifft y gelwais fy mab”.
16
Yna Herod, pan welodd ei dwyllo gan y Magiaid, a fu ddigllawn iawn, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hyny, wrth yr amser y dysgasai yn gywir oddiwrth y Magiaid.
17
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd drwy Jeremiah y proffwyd, gan ddywedwyd,
18
“Llef a glybuwyd yn Ramah, Wylofain ac ochain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynai ei chysuro, am nad ydynt.”
19
Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseph yn yr Aifft, gan ddywedyd,
20
Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel, canys y mae y rhai a geisient fywyd y mab bychan wedi marw.
21
Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.
22
Ond pan glybu fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno; ac wedi ei gyfarwyddo mewn breuddwyd,
23
efe a giliodd i barthau Galilea, ac a ddaeth ac a drigodd mewn dinas a elwir Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwydi, “Efe a elwir yn Nazaread ”.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28