bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 11
Matthew 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A bu, pan orphenodd yr Iesu gyfarwyddo ei Ddeuddeg Dysgybl, efe a ymadawodd oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
2
A Ioan, pan glybu yn y carchar am weithredoedd y Crist, wedi danfon trwy ei ddysgyblion,
3
a ddywedodd, wrtho, Ai tydi yw yr Hwn sydd yn dyfod neu ai un gwahanol a ddysgwyliwn?
4
A'r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:
5
y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio; y gwahan‐gleifion a lanheir, ac y mae byddariaid yn clywed, a'r meirw yn cael eu cyfodi, ac i'r tlodion y mynegir newyddion da;
6
a gwyn fyd yr hwn na chaiff achlysur o dramgwydd ynof fi.
7
Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i syllu arno? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?
8
Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, yn nhai breninoedd y maent.
9
Eithr paham yr aethoch allan? I weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phroffwyd.
10
Canys hwn yw efe am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu, “Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.”
11
Yn wir meddaf i chwi, Yn mhlith y rhai a aned o wragedd ni chyfododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy nag ef.
12
Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr Teyrnas Nefoedd a gymmerir drwy rym, a'r gwyr grymus sydd yn dal gafael arni.
13
Canys yr holl Broffwydi a'r Gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.
14
Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod.
15
Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.
16
Eithr i ba beth y cyffelybaf y genedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant bychain yn eistedd yn y marchnadleoedd, y rhai, gan alw ar y lleill,
17
a ddywedant, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom, ac ni churasoch ddwyfron.
18
Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.
19
Daeth Mab y Dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a phechaduriaid. Etto, Doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.
20
Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:
21
Gwae di, Chorazin; gwae di, Bethsaida; canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw.
22
Er hyny, meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn Nydd y Farn nag i chwi.
23
A thydi Capernäum, a ddyrchefir di hyd y nef? ti a äi i lawr hyd yn Hades, canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynot ti, hi a arosai hyd heddyw.
24
Er hyny, meddaf i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn Nydd y Farn nag i ti.
25
Yr amser hwnw yr atebodd yr Iesu, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn diolch i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a'r ddaear, am i Ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a datguddio y cyfryw i fabanod.
26
Ie, O Dad, am mai gwneuthur felly oedd dy ewyllys da.
27
Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.
28
Deuwch ataf fi, bawb ag ydych yn ymboeni ac yn llwythog, a mi a roddaf i chwi orphwysdra.
29
Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau.
30
Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28