bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 12
Matthew 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy y meusydd ŷd, ac ar ei Ddysgyblion yr oedd eisieu bwyd, ac a ddechreuasant dynu tywys, a bwyta.
2
A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy Ddysgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar y Sabbath.
3
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd eisieu bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef:
4
pa fodd yr aeth efe i fewn i dy Dduw, ac y bwytaodd y torthau gosod (1 Sam 21:6), y rhai nid ydoedd gyfreithlawn iddo eu bwyta, nac i'r rhai oeddynt gydag ef, ond i'r offeiriaid (Lef 24:9) yn unig?
5
Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith (Num 28:9, 10) fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddifai?
6
Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod peth mwy nâ'r Deml yma.
7
Ond pe gwybuasech beth ydyw hyn: “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,” ni chyhoeddasech farn yn erbyn y difai.
8
Canys Arglwydd y Sabbath yw Mab y Dyn.
9
Ac wedi iddo ymadael oddiyno, efe a aeth i'w synagog hwynt.
10
Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn iachau ar y Sabbath? fel y gallent ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.
11
Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hono ar y Sabbath i bwll, nid ymafla ynddi a'i chodi allan? (Deut 22:4).
12
Pa faint gwell, gan hyny, yw dyn nâ dafad? O ganlyniad, y mae gyfreithlawn gwneuthur yn dda ar y Sabbath.
13
Yna y dywed efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a adferwyd, yn iach fel y llall.
14
Ond y Phariseaid a aethant allan ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef pa fodd y dyfethent ef.
15
A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; a llawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll,
16
gan erchi iddynt na wnaent ef yn adnabyddus,
17
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
18
Wele fy ngwas yr Hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd fy enaid: Gosodaf fy Yspryd arno, Ac efe a gyhoedda farn i'r cenedloedd.
19
Nid ymryson efe, ac ni waedda; Ac ni chlyw neb ei lais yn y prif heolydd.
20
Corsen ysig nis tyr, A llin yn mygu nis diffydd, Hyd oni anfono efe allan farn i fuddugoliaeth,
21
Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenedloedd.
22
Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac efe a'i hiachaodd ef, fel y darfu i'r mudan lefaru a gweled.
23
A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd?
24
Ond pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond drwy Beelzebwl, pennaeth y cythreuliaid.
25
Eithr yn gwybod eu meddyliau, efe a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a annghyfanneddir, a phob dinas neu dŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni saif.
26
Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymranodd yn ei erbyn ei hun: pa fodd, gan hyny, y saif ei deyrnas ef?
27
Ac os trwy Beelzebwl yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? O herwydd hyn, hwy eu hunain a fyddant eich barnwyr chwi.
28
Eithr os trwy Yspryd Duw yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, yna y mae Teyrnas Dduw wedi cyrhaedd atoch chwi.
29
Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna y llwyr yspeilia efe ei dŷ ef.
30
Y neb nid yw gyda mi sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru.
31
Am hyny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion; ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd ni faddeuir.
32
A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, fe a faddeuir iddo; ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glan, ni faddeuir iddo, nac yn y byd hwn nac yn yr hwn a ddaw.
33
Naill ai gwnewch y pren yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg, canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.
34
O epil gwiberod! pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwi yn ddrwg? Canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau.
35
Y dyn da o'r trysor da a ddwg allan bethau da; a'r dyn drwg o'r trysor drwg a ddwg allan bethau drwg.
36
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pob gair segur a lefaro dynion, rhoddant gyfrif am dano yn Nydd y Farn.
37
Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.
38
Yna yr atebodd rhai o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd oddiwrthyt.
39
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn dyfal‐geisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi ond arwydd Jonah y Proffwyd.
40
Canys fel y bu Jonah yn mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y Dyn yn nghalon y ddaear dridiau a theirnos.
41
Gwyr Ninife a gyfodant yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi, am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonah, ac wele fwy na Jonah yma.
42
Brenines y Dehau a gyfyd yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemnia hi, am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon; ac wele fwy na Solomon yma.
43
Ond pan el yr yspryd aflan allan o'r dyn, efe a dramwya drwy leoedd sychion, gan geisio gorphwysfa, ac nid yw yn ei chael.
44
Yna, medd efe, mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.
45
Yna y mae efe yn myned ac yn cymmeryd gydag ef ei hun saith yspryd ereill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i fewn, hwy a ymgartrefant yno; ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf. Felly y bydd hefyd i'r genedlaeth ddrwg hon.
46
Tra yr oedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele ei fam a'i frodyr oeddynt yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan ag ef.
47
A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan â thi.
48
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam? a phwy yw fy mrodyr I?
49
Ac efe a estynodd ei law tuag at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam I a'm brodyr I.
50
Canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd, efe yw fy mrawd I, a'm chwaer, a'm mam.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28