bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 23
Matthew 23
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i Ddysgyblion, gan ddywedyd,
2
Yn nghadair Moses yr eisteddodd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid.
3
Yr oll gan hyny, pa bethau bynag a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac nis gwnant.
4
Ac y maent yn rhwymo yn nghyd feichiau trymion [ac anhawdd eu dwyn], ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; eithr hwy eu hunain ni fynant eu syflyd â'u bys.
5
Ond eu holl weithredoedd y maent yn wneuthur er eu gweled gan ddynion, canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn helaethu y siobynau.
6
A charu y maent y lle blaenaf yn y gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
7
a'r moesgyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi.
8
Eithr na'ch galwer chwi Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi, a chwithau oll brodyr ydych.
9
Ac na elwch neb yn Dad i chwi ar y ddaear, canys un yw eich Tad, sef yr un Nefol.
10
Ac na'ch galwer chwi yn Arweinwyr, canys eich Arweinydd chwi Un ydyw, y Crist.
11
A'r mwyaf o honoch fydd yn was i chwi.
12
A phwy bynag a ddyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynag a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
13
A gwae i chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd o flaen dynion: canys chwi eich hunain nid ewch i fewn, a'r rhai sydd yn myned i fewn nis gadewch i fyned i fewn.
15
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir i wneyd un proselyt; a phan y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab Gehenna yn ddau cymmaint a chwi eich hunain.
16
Gwae chwi, arweinyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynag a dwng i'r Cyssegr, nid yw ddim; ond pwy bynag a dwng i aur y Cyssegr, y mae efe yn rhwymedig.
17
O rai ffol a dall! canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y Cyssegr a sancteiddiodd yr aur?
18
Etto, pwy bynag a dwng i'r Allor, nid yw ddim, ond pwy bynag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwymedig.
19
Chwi ddeillion! canys pa un sydd fwyaf, y rhodd, neu yr Allor sydd yn sancteiddio y rhodd?
20
Yr hwn gan hyny a dwng i'r Allor a dwng iddi ac i'r hyn oll sydd arni.
21
A'r hwn a dwng i'r Cyssegr a dwng iddo, ac i'r Hwn sydd yn preswylio ynddo.
22
A'r hwn a dwng i'r Nef a dwng i Orsedd Duw ac i'r Hwn sydd yn eistedd arni.
23
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn rhoddi degwm o'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac yr ydych wedi esgeuluso pethau pwysicaf y Gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd; ond dylasech wneuthur y pethau hyn, heb esgeuluso y lleill.
24
O arweinyddion deillion, yn hidlo y gwybedyn, ac yn traflyncu y camel!
25
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond o'r tu fewn y maent yn llawn trais ac anghymmedroldeb.
26
O Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddiallan i'r cyfryw.
27
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwyngalchu, y rhai oddiallan ydynt yn ymddangos yn deg, ond oddifewn ydynt lawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28
Felly chwithau hefyd, oddiallan yn wir yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond oddifewn yn llawn rhagrith ac annghyfiawnder.
29
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, ac yn addurno cofadeiliau y rhai cyfiawn,
30
ac a ddywedwch, Pe buasem ni yn byw yn nyddiau ein tadau, ni fuasem ni gyd‐gyfranogion â hwynt yn ngwaed y Proffwydi.
31
O ganlyniad, yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain eich bod yn feibion y rhai a lofruddiasant y Proffwydi.
32
A chwithau, llenwch i fyny fesur eich tadau.
33
O seirff, hiliogaeth gwiberod! pa fodd y diangwch rhag barnedigaeth Gehenna?
34
O herwydd hyn, Wele, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi, a Doethion, ac Ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas;
35
fel y delo arnoch chwi bob gwaed cyfiawn a dywelltir ar y ddaear, o waed Abel y Cyfiawn hyd at waed Zechariah, mab Barachiah, yr hwn a lofruddiasoch rhwng y Cyssegr a'r Allor.
36
Yn wir meddaf i chwi, yr holl bethau hyn a ddeuant ar y genedlaeth hon.
37
O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai sydd wedi eu danfon atat, pa sawl gwaith yr ewyllysiwn gasglu dy blant yn nghyd, yr un modd ag y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nid ewyllysiech chwi!
38
Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn annghyfannedd:
39
canys meddaf i chwi, ni'm gwelwch o hyn allan, hyd oni ddywedwch, Bendigedig yw Yr‐Hwn‐sydd-yn‐dyfod yn enw yr Arglwydd.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28