bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 16
Matthew 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
A'r Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, a chan ei demtio hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, [Pan ddaw yr hwyr, dywedwch, Tywydd teg, canys y mae y nefoedd yn goch.
3
Ac yn y boreu, Tywydd garw heddyw, canys y mae y nefoedd yn goch ac yn bruddaidd. Chwi a fedrwch ddeall gwyneb y nefoedd, ond arwyddion yr amseroedd ni fedrwch.]
4
Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd Jonah. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
5
A'r Dysgyblion a ddaethant i'r lan arall, ac a annghofiasant gymmeryd bara.
6
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid.
7
A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara.
8
A'r Iesu yn gwybod a ddywedodd, O chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain fod hyn am na chymmerasoch fara?
9
Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum' torth y pum' mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny?
10
Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny?
11
Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid?
12
Yna y deallasant na ddywedodd efe am ymogelyd rhag lefain y torthau, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid.
13
Ac wedi dyfod yr Iesu i barthau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn?
14
A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr; a rhai, mai Elias; ac ereill, mai Jeremiah, neu un o'r proffwydi.
15
Efe a ddywed wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?
16
A Simon Petr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw.
17
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon fab Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
18
Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth Hades nis gorchfygant hi.
19
A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd.
20
Yna y gorchymynodd efe i'w Ddysgyblion na ddywedent i neb mai efe yw y Crist.
21
O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w Ddysgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Jerusalem, a dyoddef llawer oddiwrth yr Henuriaid a'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
22
A Phetr, wedi ei gymmeryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Duw fyddo dosturiol wrthyt, Arglwydd: ni fydd hyn o gwbl i ti.
23
Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos y tu ol i mi, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi, canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
24
Yna yr Iesu a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
25
Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd o'm plegyd I a'i caiff.
26
Canys pa leshad a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu ei fywyd ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth am ei fywyd.
27
Canys Mab y Dyn a ddaw yn ngogoniant ei Dâd gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bob un yn ol ei weithred.
28
Yn wir, meddaf i chwi, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu hyd oni welont Fab y Dyn yn dyfod yn ei Deyrnas.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28