bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 18
Matthew 18
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Yn yr awr hono y daeth y Dysgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy ynte sydd fwyaf yn Nheyrnas Nefoedd?
2
Ac efe a alwodd ato blentyn bychan, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt,
3
ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr i chwi droi a dyfod fel plant bychain, nid ewch chwi o gwbl i fewn i Deyrnas Nefoedd.
4
Pwy bynag, gan hyny, a ostyngo ei hun fel y plentyn bychan hwn, hwnw yw y mwyaf yn Nheyrnas Nefoedd.
5
A phwy bynag a dderbynio un cyfryw blentyn bychan yn fy enw I, a'm derbyn I.
6
Eithr pwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, buddiol ydyw iddo i faen mawr melin gael ei grogi am ei wddf a'i suddo yn eigion y môr.
7
Gwae y byd o herwydd rhwystrau, canys angenrhaid yw i'r rhwystrau ddyfod; er hyny, gwae y dyn drwy yr hwn y mae y rhwystr yn dyfod.
8
Ac os dy law neu dy droed a'th rwystra, tòr hi ymaith, a thafl oddiwrthyt: da i ti fyned i fewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus nag â chenyt ddwy law neu ddwy droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.
9
Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt: gwell i ti yn un‐llygeidiog fyned i fewn i'r bywyd nag â dau lygad genyt dy daflu i'r Gehenna o dân.
10
Edrychwch na ddirmygoch un o'r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod eu hangylion hwy yn y Nefoedd bob amser yn syllu ar wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
12
Beth dybiwch chwi? O bydd i unrhyw ddyn gant o ddefaid, a chrwydro o un o honynt, oni âd efe y naw deg a naw ar y mynyddoedd, a myned a cheisio yr hon a grwydrasai?
13
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am hono yn fwy nag am y naw deg a naw y rhai ni chrwydrasant.
14
Felly, nid yw ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd, golli un o'r rhai bychain hyn.
15
Ac os pecha dy frawd, dos, a dwg ef i gyfrif rhyngot ti ac ef ei hun; os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.
16
Eithr os efe ni wrendy, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel wrth enau dau neu dri o dystion y byddo safadwy bob gair
17
Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys; ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded i ti fel y Cenedlddyn neu y Trethgasglwr.
18
Yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhwymo yn y Nef, a pha bethau bynag a ryddhaoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhyddhau yn y Nef.
19
A thrachefn meddaf i chwi, Os cytuna dau o honoch ar y ddaear yn nghylch unrhyw fater am yr hwn y gofynant, efe a roddir iddynt oddiwrth fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
20
Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
21
Yna y daeth Petr ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? hyd seithwaith?
22
Yr Iesu a ddywed wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd, Hyd seithwaith, ond, Hyd ddeg‐a‐thri‐ugain seithwaith.
23
Am hyny y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a fynai wneuthur cyfrif â'i weision.
24
A phan ddechreuodd gyfrif, fe ddygwyd ato un oedd ddyledwr am ddeg mil o dalentau;
25
a chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a'r hyn oll a feddai, a chael ei dalu.
26
Y gwas, gan hyny, a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.
27
Ac Arglwydd y gwas hwnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd ymaith, ac a faddeuodd iddo y ddyled.
28
Eithr y gwas hwnw a aeth allan, ac a ddaeth o hyd i un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn denarion, ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl yr hyn sydd ddyledus arnat.
29
A syrthiodd ei gydwas i lawr, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti.
30
Eithr nis mynai efe; eithr gan fyned ymaith, efe a'i bwriodd ef i garchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.
31
Gan hyny, pan welodd ei gydweision y pethau a wnaethpwyd, bu ddrwg dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a eglurasant i'w harglwydd eu hunain yr hyn oll a ddygwyddasai.
32
Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywed, O was drwg! mi a faddeuais i ti yr holl ddyled hono, am i ti ymbil â mi;
33
ac oni ddylesit tithau hefyd drugarhau wrth dy gydwas, megys y trugarheais inau wrthyt tithau?
34
A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i traddododd ef i'r poenydwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus.
35
Ac felly y gwna fy Nhad Nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i'w frawd o'ch calonau.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28