bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 20
Matthew 20
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Canys Teyrnas Nefoedd sydd debyg i Feistr tŷ, yr hwn a aeth allan gyda'r wawr i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
2
Ac wedi cytuno â'r gweithwyr am ddenarion y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.
3
Ac efe a aeth allan yn nghylch y drydedd awr, ac a welodd ereill yn sefyll yn y farchnadle yn segur.
4
Ac wrthynt hwy y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i'r winllan, a pha beth bynag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith.
5
Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6
Ac yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, efe a aeth allan ac a gafodd ereill yn sefyll, ac a ddywed wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
7
Dywedant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywed yntau wrthynt, Ewch chwithau hefyd i'r winllan.
8
A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywed wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, derbyniasant bob un ddenarion.
10
A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, a hwy hefyd a gawsant bob un y ddenarion.
11
Ac wedi iddynt gael, hwy a rwgnachasant yn erbyn Meistr y tŷ,
12
gan ddywedyd, Y rhai diweddaf hyn, un awr y gweithiasant, a thi a'u gwnaethost hwy yn gydradd a ninau, y rhai ydym wedi dwyn pwys y dydd, a'r gwres tanllyd.
13
Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi; onid am ddenarion y cytunaist â mi?
14
Cymmer i fyny yr eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn yr un modd ag i tithau.
15
Ai nid rhydd i mi wneuthur yr hyn a fynwyf â'm heiddo fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg am fy mod I yn dda?
16
Felly, y rhai olaf fyddant flaenaf, a'r blaenaf olaf.
17
Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerusalem, efe a gymmerth y Deuddeg o'r neilldu, ac ar y ffordd efe a ddywedodd wrthynt,
18
Wele yr ydym ni yn myned i fyny i Jerusalem, a Mab y Dyn a draddodir i'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,
19
ac a'i traddodant ef i'r cenedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio, a'r trydydd dydd y cyfodir ef.
20
Yna y daeth ato ef fam meibion Zebedeus gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhywbeth ganddo.
21
Ac Efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeheu, a'r llall ar dy law aswy, yn dy Deyrnas.
22
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi ar ei yfed? Dywedant wrtho, Gallwn.
23
Efe a ddywed wrthynt, Y cwpan yn wir chwi a yfwch, eithr eistedd ar fy llaw ddeheu ac ar yr aswy nid eiddo fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu gan fy Nhad.
24
A phan glybu y deg hwy a sorasant yn nghylch y ddau frawd.
25
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt.
26
Eithr nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith chwi, a fydd yn weinidog i chwi;
27
a phwy bynag a ewyllysio fod yn flaenaf, efe a fydd yn was i chwi.
28
Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
29
Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.
30
Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd.
31
A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent; hwythau a lefasant fwy‐fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd.
32
A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, gan ddywedyd, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi?
33
Dywedant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34
A'r Iesu a dosturiodd ac a gyffyrddodd â'u llygaid hwynt, ac yn ebrwydd hwy a gawsant eu golwg, a hwy a'i canlynasant ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28