bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 28
Matthew 28
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac yn hwyr y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i weled y bedd.
2
Ac wele, bu daeargryn mawr, canys Angel yr Arglwydd a ddisgynodd o'r Nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno.
3
A'i ymddangosiad ef oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira.
4
A rhag ei ofn ef y crynodd y gwylwyr, ac a aethant megys meirw.
5
Eithr yr Angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi, canys mi a wn mai yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd, yr ydych chwi yn ei geisio.
6
Nid yw Efe yma, canys cyfododd megys ag y dyweddodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd [yr Arglwydd].
7
Ac ewch ar frys, a dywedwch i'w Ddysgyblion, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; ac wele, y mae Efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch Ef; wele dywedais i chwi.
8
A hwy a ymadawsant ar frys oddiwrth y bedd gydag ofn a llawenydd mawr, ac a redasant i fynegu i'w Ddysgyblion.
9
Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Henffych well. A hwy a ddaethant ato, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.
10
Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr ymadawont i Galilea, ac yno y'm gwelant I.
11
A hwy yn myned, wele rhai o'r gwarcheidwaid a ddaethant i'r Ddinas, ac a fynegasant i'r Arch‐offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12
Ac wedi iddynt ymgasglu yn nghyd gyda'r Henuriaid, a chynnal cynghor, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr,
13
gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
14
Ac os gwrandewir yr achos hwn o flaen y Rhaglaw, ni a'i darbwyllwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddibryder.
15
A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.
16
A'r un Dysgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd y pennodasai yr Iesu iddynt.
17
A phan welsant Ef, hwy a'i haddolasant; ond rhai a amheuasant.
18
A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y Nef ac ar y ddaear.
19
Ewch [gan hyny] a gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd, Gan eu bedyddio hwy i enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân,
20
Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr wyf FI gyda chwi bob dydd. Hyd DDIWEDD Y BYD.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28