bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 15
Matthew 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
Yna y mae yn dyfod at yr Iesu o Jerusalem, Phariseaid ac Ysgrifenyddion, gan ddywedyd,
2
Paham y mae dy Ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi dwylaw pan fwytaont fara.
3
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi hefyd yn troseddu gorchymyn Duw o herwydd eich traddodiad chwi?
4
Canys Duw a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam. ac, Yr hwn a ddifenwo dad neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth.
5
Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynag y'th lesolir drwyddi oddiwrthyf fi, efe
6
nid anrhydedda ei dad. A chwi a wnaethoch air Duw yn ddirym o herwydd eich traddodiad.
7
O ragrithwyr, da y proffwydodd Esaiah am danoch chwi, gan ddywedyd,
8
Y bobl hyn a'm hanrhydeddant â'u gwefusau, Ond eu calon sydd bell iawn oddiwrthyf;
9
Eithr yn ofer y'm haddolant I, Gan y dysgant fel eu dysgeidiaeth orchymynion dynion.
10
Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch.
11
Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i'r genau sydd yn halogi y dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hyny sydd yn halogi y dyn.
12
Yna y daeth ei Ddysgyblion, ac y maent yn dywedyd wrtho, A wyddost ti i'r Phariseaid gael eu tramgwyddo pan y clywsant y gair?
13
Ac yntau a atebodd a ddywedodd, Pob planigyn, yr hwn ni phlanodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14
Gadewch iddynt. Arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a arweinia ddall, y ddau a syrthiant i bwll.
15
A Phetr a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg.
16
Ac efe a ddywedodd, A ydych chwithau hefyd hyd yn hyn heb ddeall?
17
Oni chanfyddwch fod yr hyn oll sydd yn myned i fewn i'r genau yn myned i'r bol, ac y bwrir ef allan i'r geudy?
18
Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau a ddeuant allan o'r galon; a hwy sydd yn halogi y dyn.
19
Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, cam‐dystiolaethau, cableddau:
20
dyma y pethau sydd yn halogi y dyn; eithr bwyta â dwylaw heb eu golchi nid ydynt yn halogi y dyn.
21
A'r Iesu a aeth allan oddiyno, ac a giliodd i barthau Tyrus a Sidon.
22
Ac wele wraig oedd Ganaanëes a ddaeth allan o'r cyffiniau hyny, ac a lefodd, gan ddywedyd, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a feddiannir yn ddrwg gan gythraul.
23
Eithr nid atebodd efe air iddi. A daeth ei Ddysgyblion, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol.
24
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd I ond at ddefaid colledig ty Israel.
25
Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth fi.
26
Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant a'i fwrw i'r cwn.
27
Eithr hi a ddywedodd, Gwir, Arglwydd; canys y mae y cwn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu meistriaid.
28
Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A iachawyd ei merch o'r awr hono.
29
A'r Iesu a symmudodd oddiyno, ac a ddaeth at lan môr Galilea; ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.
30
A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac ereill lawer; a hwy a'u taflasant i lawr wrth ei draed, ac efe a'u hiachaodd hwynt:
31
fel y rhyfeddodd y torfeydd wrth weled y mudion yn llefaru, yr anafusion yn iach, a'r cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled; a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32
A galwodd yr Iesu ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta, ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith yn newynog, rhag iddynt ddiffygio ar y ffordd.
33
A'r Dysgyblion a ddywedant wrtho, Pa le y caem ni gynnifer o dorthau yn y diffaethwch fel y digonid tyrfa gymmaint?
34
A'r Iesu a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
35
Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.
36
Efe a gymmerodd y saith dorth a'r pysgod; ac a ddiolchodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd;
37
a hwy oll a fwytasant ac a ddigonwyd; ac a godasant o weddill y briwfwyd saith fasgedaid yn llawn.
38
A'r rhai a fwytasant oeddynt bedair mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.
39
Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i'r cwch, ac a ddaeth i gyffiniau Magadan.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28