bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 9
Matthew 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
Ac efe a aeth i fewn i gwch, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w Ddinas ei hun.
2
Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola, fab, maddeuir dy bechodau.
3
Ac wele, rhai o'r Ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
4
A'r Iesu yn canfod eu meddyliau, a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonau?
5
Canys pa un hawddach ai dywedyd, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
6
Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywed efe wrth y parlysig), Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.
7
Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.
8
A'r torfeydd pan welsant a ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roddasai y fath awdurdod i ddynion.
9
Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, efe a ganfu ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef.
10
A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele, Treth‐gasglwyr lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion.
11
A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Paham y bwyty eich Athraw chwi gyda'r Treth‐gasglwyr a'r pechaduriaid?
12
A phan glybu [Efe], efe a ddywedodd, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.
13
Ond ewch a dysgwch pa beth yw hyn, “Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth” Canys ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
14
Yna y mae Dysgyblion Ioan yn dyfod ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
15
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas alaru tra byddo y Priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddeuant pan ddygir y Priodfab oddiarnynt, ac yna yr ymprydiant.
16
Ac ni ddyd neb lain o frethyn annhriniedig ar hen ddilledyn, canys yr hyn a leinw a dyn oddiwrth y dilledyn, a'r rhwyg a fydd waeth.
17
Ac ni ddodant win newydd mewn hen win grwyn; os amgen, y crwyn a rwygir, a'r gwin a red allan, a'r crwyn a gollir; eithr gwin newydd a ddodant mewn gwin‐grwyn newyddion, a chedwir y ddau.
18
Tra yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn wrthynt, wele, daeth rhyw Lywodraethwr ac a'i haddolodd ef, ac a ddywedodd, Bu farw fy merch yr awrhon; eithr tyred a gosod dy law arni, a hi a fydd byw.
19
A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i Ddysgyblion.
20
Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl ei wisg ef:
21
canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.
22
A'r Iesu a drodd, ac a'i gwelodd hi, ac a ddywedodd, Ferch, ymgalonoga: y mae dy ffydd wedi dy iachau; a'r wraig a iachawyd o'r awr hono.
23
A phan ddaeth yr Iesu i dŷ y Llywodraethwr, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,
24
efe a ddywedodd, Ciliwch, canys ni fu farw y llances, ond cysgu y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef.
25
Ond wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i fewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a'r llances a gyfododd.
26
A'r hanes hwn a aeth dros yr holl wlad hono.
27
Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Fab Dafydd, trugarha wrthym.
28
Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato; ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Dywedant hwythau wrtho, Ydym, Arglwydd.
29
Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwynt, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.
30
A'u llygaid a agorwyd. A'r Iesu a orchymynodd iddynt yn bendant gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.
31
Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod drwy yr holl wlad hono.
32
Ac â hwy yn myned allan, wele, hwy a ddygasant ato ddyn mud, wedi ei feddiannu gan gythraul.
33
Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan; a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni ymddangosodd y cyffelyb erioed yn Israel.
34
Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy Dywysog y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y cythreuliaid.
35
A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.
36
Ond pan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd o'u herwydd, am eu bod wedi eu trallodi, a'u taflu ar wasgar, fel defaid heb fugail.
37
Yna y dywed efe wrth ei Ddysgyblion, Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml.
38
Am hyny, atolygwch i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28