bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 25
Matthew 25
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Yna y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddeg morwyn, y cyfryw a gymmerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod y priodfab.
2
A phump o honynt oedd ffol, a phump oedd ddoeth.
3
Canys y rhai ffol a gymmerasant eu lampau, ond ni chymmerasant olew gyda hwynt;
4
ond y doeth a gymmerasant olew yn y llestri gyda'u lampau.
5
A chan fod y priodfab yn oedi, hwy oll a hepiasant ac a gysgasant.
6
Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y priodfab, ewch allan i'w gyfarfod ef.
7
Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, ac a drwsiasant eu lampau eu hunain.
8
A'r rhai ffol a ddywedasant wrth y rhai doeth, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau ni yn diffoddi.
9
A'r rhai doeth a atebasant, gan ddywedyd, Rhag na fyddo digon i ni ac i chwithau, ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10
A thra yr oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod a aethant i fewn gydag ef i'r briodas‐wledd; a chauwyd y drws.
11
Wedi hyny y daeth y morwynion ereill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
12
Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid wyf yn eich adwaen.
13
Gwyliwch gan hyny, canys nid adwaenoch y dydd na'r awr.
14
Canys bydd fel dyn yn myned ymaith: galwodd ei weision ato, ac a roddodd ei feddiannau iddynt.
15
Ac i un y rhoddodd efe bum' talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac efe a aeth ymaith.
16
Ac yn ebrwydd yr hwn a dderbyniodd y pum' talent a aeth ac a'u defnyddiodd hwynt, ac a ennillodd bump ereill.
17
A'r un modd yr hwn a dderbyniasai y ddwy a ennillodd ddwy ereill.
18
Ond yr hwn a dderbyniasai yr un a aeth ymaith ac a gloddiodd y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.
19
Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hyny yn dyfod, ac y mae yn gwneyd cyfrif a hwynt.
20
A daeth yr hwn a dderbyniodd bum' talent, ac a ddug bum' talent ereill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum' talent a roddaist i mi: wele, pum' talent ereill mi a ennillais.
21
Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd.
22
A daeth hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, gan ddywedyd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist i mi: wele, dwy dalent ereill mi a ennillais.
23
Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd.
24
A'r hwn hefyd a dderbyniasai yr un dalent a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai dyn caled ydwyt, yn medi lle nis hauaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist:
25
ac mi a ofnais, ac a aethum ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.
26
A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, a wyddaist fy mod yn medi lle nis hauais, ac yn casglu lle ni wasgerais?
27
Am hyny y dylesit roddi fy arian i'r bancwyr, a mi pan ddaethwn a gawswn dderbyn fy eiddo fy hun gyda llog.
28
Cymmerwch gan hyny y dalent oddiwrtho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo y deg talent.
29
Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff yn helaeth: eithr yr hwn nid oes ganddo — ïe, dygir oddiarno yr hyn sydd ganddo.
30
A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
31
A phan ddelo Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl Angelion gydag ef, yna yr eistedda ar orsedd ei ogoniant;
32
a chydgesglir ger ei fron ef yr holl genedloedd; ac efe a'u didola hwynt oddiwrth eu gilydd, megys y didola bugail y defaid oddiwrth y geifr;
33
ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw; ond y geifr ar yr aswy.
34
Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi Fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas a barotowyd i chwi er seiliad y byd.
35
Canys bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a chwi a'm diodasoch; bum yn ddyeithr, a chwi a'm dygasoch i fewn gyda chwi;
36
noeth, a chwi a'm dilladasoch; bum yn glaf, a chwi a ymwelsoch a mi; bum yn ngharchar, a daethoch ataf.
37
Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, Pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y'th ddiodasom?
38
A pha bryd y'th welsom yn ddyeithr, ac y'th ddygasom i fewn gyda ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom?
39
A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yn ngharchar, ac y daethom atat ti?
40
A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, mor bell ag y gwnaethoch hyn i un o'm brodyr, ïe, y rhai lleiaf, i mi y gwnaethoch.
41
Yna y dywed efe wrth y rhai ar y llaw aswy, Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol, yr hwn sydd wedi ei barotoi i'r Diafol, ac i'w Angelion.
42
Canys bum newynog, ac ni roisoch i mi ddim i fwyta; bu arnaf syched, ac ni roisoch i mi ddim i yfed;
43
bum ddyeithr, ac ni'm dygasoch i fewn gyda chwi; noeth, ac ni'm dilladasoch; yn glaf, ac yn ngharchar, ac ni ymwelsoch a mi.
44
Yna yr atebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddyeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yn ngharchar, ac ni weiniasom i ti?
45
Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir, meddaf i chwi, mor bell ag nis gwnaethoch i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minau.
46
A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28