bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 14
Matthew 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Y pryd hwnw y clybu Herod y Tetrarch son am yr Iesu;
2
ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Ioan Fedyddiwr ei hun yw hwn: efe a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac am hyny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3
Canys Herod a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd, ac a'i dododd yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd ef.
4
Canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi.
5
Ac efe yn ewyllysio ei ladd ef a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cyfrifent ef fel proffwyd.
6
Eithr pan ddaeth gŵyl ddydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias yn y canol, ac a ryngodd fodd Herod.
7
O ba herwydd efe, gyda llw, a addawodd roddi iddi beth bynag a ofynai.
8
A hithau, wedi ei hannog yn mlaen gan ei mam, a ddywed, Dyro i mi yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.
9
A'r brenin a dristhawyd. O herwydd ei lwon, a'r rhai a eisteddent gydag ef, efe a orchymynodd ei roddi.
10
Ac efe a anfonodd ac a dorodd ymaith ben Ioan yn y carchar.
11
A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances; a hi a'i dug ef i'w mam.
12
A'i ddysgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant i fyny y corff, ac a'i claddasant ef; ac a aethant ac a fynegasant i'r Iesu.
13
Eithr pan glybu yr Iesu, efe a ymneillduodd oddiyno mewn cwch i annghyfanneddle yn ddirgelaidd, ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14
A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac a iachaodd eu cleifion hwynt.
15
A phan ddaeth yr hwyr, daeth y Dysgyblion ato gan ddywedyd, Y lle sydd annghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng ymaith y torfeydd, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fwyd.
16
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17
A hwy a ddywedant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pum' torth a dau bysgodyn.
18
Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19
Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum' torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny i'r nef, ac a fendithiodd ac a dorodd ac a roddodd y torthau i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd.
20
A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digoni; ac a godasant weddill y briwfwyd, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21
A'r rhai a fwytasant oeddynt yn nghylch pum' mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.
22
Ac yn ebrwydd y perodd efe i'r Dysgyblion fyned i gwch, ac i'w ragflaenu i'r lan arall, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd.
23
Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i'r mynydd o'r neilldu, i weddio; a phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yno yn unig.
24
Ond y cwch oedd weithian yn nghanol y môr, yn drallodus gan y tonau, canys yr oedd y gwynt yn groes.
25
Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos daeth efe atynt, yn rhodio ar y môr.
26
A phan welodd y Dysgyblion ef ar y môr yn rhodio, hwy a gythryblwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw! A hwy a waeddasant gan ofn.
27
Ac yn ebrwydd y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch galon, Myfi ydyw: nac ofnwch.
28
A Phetr a'i hatebodd ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, os Tydi yw, arch i mi ddyfod atat Ti ar y dyfroedd.
29
Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r cwch, efe a rodiodd ar y dyfroedd, ac a ddaeth at yr Iesu.
30
Ond pan welodd efe y gwynt, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.
31
Ac yn ebrwydd yr Iesu a estynodd ei law, ac a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham yr amheuaist?
32
A phan yr aethant i fyny i'r cwch, tawelodd y gwynt.
33
A'r rhai oeddynt yn y cwch a ddaethant, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir, Mab Duw ydwyt ti.
34
Ac wedi iddynt fyned drosodd, hwy a ddaethant at y tir, i Gennesaret.
35
A phan adnabu gwŷr y lle hwnw ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad hono o amgylch, ac a ddygasant ato yr holl gleifion;
36
ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer a gyffyrddodd a wnaed yn holliach.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28