bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 6
Matthew 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Gochelwch rhag gwneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch wobr gan eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.
2
Am hyny, pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac yn yr heolydd, fel y canmoler hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
3
Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy y peth a wna dy law ddehau:
4
fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti.
5
A phan weddioch, ni fyddwch fel y rhagrithwyr, canys hwy a hoffant sefyll i weddio yn y synagogau ac yn nghonglau y prif heolydd fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
6
Ond tydi, pan weddiot, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yn y dirgel, a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti.
7
A phan weddioch, nac ail adroddwch wag‐eiriau, fel y cenedloedd: canys y maent yn tybied y cânt eu gwrandaw yn eu haml eiriau.
8
Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt hwy; canys gwyr Duw eich Tâd pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn gofyn o honoch iddo.
9
Am hyny, gweddiwch chwi fel hyn:— Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, Sancteiddier dy enw.
10
Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaear.
11
Dyro i ni heddyw ein bara cyfreidiol.
12
A maddeu i ni ein dyledion, fel yr ydym ninau hefyd wedi maddeu i'n dyledwyr.
13
Ac na ddwg ni i brofedigaeth. Eithr gwared ni oddiwrth yr Un Drwg.
14
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad Nefol a faddeu hefyd i chwithau;
15
eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad ychwaith eich camweddau chwithau.
16
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wynebdrist, canys anffurfiant eu gwynebau, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
17
Ond tydi, pan ymprydiot, eneinia dy ben, a golch dy wyneb;
18
fel nad ymddangosot i ddynion yn ymprydio, ond i'th Dad, yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad, yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
19
Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata.
20
Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y Nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant.
21
Canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd.
22
Lamp y corff yw y llygad: am hyny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn ddysglaer.
23
Eithr, os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hyny, os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa gymmaint y tywyllwch!
24
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasha y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a ddiystyra y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
25
Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, na fyddwch bryderus am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r dillad.
26
Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad Nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?
27
A phwy o honoch trwy fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes?
28
A phaham y pryderwch yn nghylch dillad?
29
Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu;
30
eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn. Ac os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?
31
Gan hyny, na fyddwch bryderus, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?
32
Canys yr holl bethau hyn y mae y cenedloedd yn eu ceisio; oblegyd gwyr eich Tad Nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn.
33
Eithr ceisiwch yn gyntaf ei Deyrnas a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.
34
Gan hyny, na fyddwch bryderus gyda golwg ar dranoeth: canys tranoeth a fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei ddrwg ei hun.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28