bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 13
Matthew 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
1
Y dydd hwnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ, ac a eisteddodd wrth lan y môr;
2
a thorfeydd lawer a ymgynnullasant ato ef, fel yr aeth efe i gwch, ac yr eisteddodd; a'r holl dyrfa oedd yn sefyll ar y traeth.
3
Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mewn dammegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau;
4
ac fel yr oedd efe yn hau, peth hadau a syrthiasant ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant ac a'u difasant;
5
ac ereill a syrthiasant ar y creigleoedd, lle ni chawsant fawr daear; ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear.
6
Ond wedi i'r haul godi deifiwyd hwynt, ac am nad oedd iddynt wreiddyn, hwy a wywasant.
7
A rhai ereill a syrthiasant ar y drain; a'r drain a dyfasant, ac a'u tagasant.
8
Ac ereill a syrthiasant ar y tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ei ganfed, peth ei dri ugeinfed, a pheth ei ddegfed ar hugain.
9
Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.
10
A daeth y Dysgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt mewn dammegion?
11
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae wedi ei roddi i wybod dirgelion Teyrnas Nefoedd, ond iddynt hwy nid yw wedi ei roddi.
12
Oblegyd pwy bynag sydd ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaethrwydd; eithr pwy bynag nid oes ganddo — ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith oddiarno.
13
Am hyny, yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy mewn dammegion, canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.
14
Ac iddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Esaiah, yr hon sydd yn dywedyd, “Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch ddim; Ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
15
Canys brashawyd calon y bobl hyn, Ac â'u clustiau y clywant yn drwm, Ac a gauasant eu llygaid, Rhag canfod o gwbl â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, A deall â'r galon, A throi, ac i mi eu hiachau hwynt.”
16
Eithr dedwydd eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled, a'ch clustiau, am eu bod yn clywed.
17
Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, i lawer o broffwydi a rhai cyfiawn chwennychu gweled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
18
Gwrandewch chwithau, gan hyny, ddammeg yr hauwr.
19
Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae yr Un Drwg yn dyfod ac yn cipio yr hyn sydd wedi ei hau yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.
20
A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, efe yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn y fan gyda llawenydd yn ei dderbyn;
21
ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am dymhor y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid o herwydd y gair, yn y fan efe a rwystrir.
22
A'r hwn a hauwyd yn mhlith y drain, efe yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae pryder y byd a thwyll cyfoeth yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.
23
Ond yr hwn a hauwyd ar y tir da, hwn yw efe sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall; yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
24
Dammeg arall a osodododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes;
25
ond tra yr oedd dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd drachefn efrau yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.
26
Ac wedi i'r eginyn dyfu a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.
27
A gweision gwr y ty a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a hauaist di yn dy faes? O ba le gan hyny y daeth efrau?
28
Yntau a ddywedodd wrthynt, Dyn sydd elyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedant wrth, A fyni di gan hyny i ni fyned ymaith a'u casglu hwynt?
29
Ond efe a ddywed, nid felly, rhag dygwydd i chwi wrth gasglu yr efrau, dynu o'r gwraidd y gwenith gyda hwynt.
30
Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn nhymhor y cynauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er eu llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
31
Dammeg arall a osododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes.
32
Yr hwn yn wir sydd lai nâ'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, y mae yn fwy nâ'r llysiau, ac yn dyfod yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn ymlochesu yn ei gangau ef.
33
Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.
34
Hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn dammegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd ddim wrthynt;
35
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd drwy y proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn dammegion, Mynegaf bethau cuddiedig er seiliad y byd.
36
Yna y gadawodd efe y torfeydd ac a aeth i'r ty; a'i Ddysgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.
37
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn;
38
a'r maes yw y byd; a'r had da, hwynthwy yw meibion y Deyrnas; a'r efrau yw meibion yr Un Drwg;
39
a'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt yw y Diafol; a'r cynauaf yw diwedd y byd, a'r medelwyr ydynt Angelion.
40
Megys gan hyny y cesglir yr efrau, ac eu llosgir â thân; felly y bydd yn niwedd y byd.
41
Mab y Dyn a ddenfyn allan ei Angelion, a hwy a gasglant allan o'i Deyrnas ef yr holl bethau a achosant dramgwydd, â'r rhai a wnant anwiredd,
42
ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
43
Yna y rhai cyfiawn a lewyrchant allan fel yr haul yn Nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed.
44
Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, efe a'i cuddiodd; ac o lawenydd am dano, y mae yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnw.
45
Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i farchnatäwr yn ceisio perlau teg;
46
ac wedi cael un perl gwerthfawr, efe a aeth ymaith, ac a werthodd yr oll a feddai ac a'i prynodd ef.
47
Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i dynrwyd a fwriwyd i'r môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth,
48
yr hon wedi ei llenwi a ddygasant i fyny ar y traeth, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da i lestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.
49
Felly y bydd yn Niwedd y Byd; yr Angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,
50
ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
51
A ddeallasoch y pethau hyn oll? Hwythau a ddywedant wrtho, Do.
52
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Am hyny pob ysgrifenydd yr hwn a wnaed yn ddysgybl i Deyrnas Nefoedd, sydd gyffelyb i ddyn sydd i feistr ty, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.
53
A bu, wedi i'r Iesu orphen y dammegion hyn, efe a symmudodd oddiyno.
54
Ac wedi iddo ddyfod i'w wlad ei hun, yr oedd efe yn eu dysgu hwynt yn eu synagog, yn gymmaint ag iddynt synu a dywedyd, O ba le y daeth i'r dyn hwn y doethineb hwn a'r galluoedd nerthol?
55
Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joseph, a Simon, a Judas, ei frodyr ef?
56
A'i chwiorydd ef, onid ydynt hwy oll gyda ni? O ba le gan hyny y mae gan hwn y pethau hyn oll?
57
A hwy a rwystrwyd ynddo ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ac yn ei dy ei hun.
58
Ac ni wnaeth efe lawer o weithredoedd nerthol yno, oblegyd eu hannghrediniaeth hwynt.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28