bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 21
Matthew 21
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
A phan yr agosasant i Jerusalem, ac y daethant i Bethphage, i fynydd yr Olew‐wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau Ddysgybl,
2
gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi.
3
Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt.
4
A hyn a ddygwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwyd, gan ddywedyd,
5
Dywedwch i Ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod i ti, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau.
6
Y Dysgyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchymynodd yr Iesu iddynt;
7
a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad, ac efe a eisteddodd arnynt.
8
A'r rhan fwyaf o'r dyrfa a daenasant eu dillad ar y ffordd; ac ereill a dorasant gangau o'r coed, ac a'u taenasant ar y ffordd.
9
A'r torfeydd, y rhai oeddynt yn myned o'i flaen, a'r rhai oeddynt yn canlyn, oeddynt yn llefain, gan ddywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, Hosanna yn y goruchafion.
10
A phan ddaeth efe i Jerusalem, yr holl ddinas a ysgydwyd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?
11
A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw y proffwyd Iesu, o Nazareth yn Galilea.
12
A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml, ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod.
13
Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef. Eithr chwi ydych yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr.
14
A'r deillion a'r cloffion a ddaethant ato yn y Deml, ac efe a'u hiachaodd hwynt.
15
A phan welodd yr Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant ag oeddynt yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, hwy a sorasant,
16
ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist foliant?
17
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r Ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno.
18
Ac yn foreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r Ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.
19
A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20
A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!
21
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Os oes genych ffydd, ac heb betruso, ni wnewch yn unig yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; a hyny a fydd.
22
A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.
23
Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?
24
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:
25
Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
26
Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd.
27
A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28
Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan.
29
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth.
30
Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe.
31
Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32
Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef.
33
Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall.
34
A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau.
35
A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36
Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37
Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab.
38
Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef.
39
Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40
Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny?
41
Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau.
42
A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaethpwyd yn ben congl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni.
43
Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi.
44
A'r hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch.
45
A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.
46
A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28