bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 10
Matthew 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
Ac wedi galw ei ddeuddeg Dysgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
2
Ac enwau y deuddeg Apostolion ydynt y rhai hyn: y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;
3
Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y Treth‐gasglwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus;
4
Simon y Cananëad, a Judas Iscariot, yr hwn a'i bradychodd ef.
5
Y Deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch ymaith i ffordd y cenedloedd, ac nac ewch i fewn i ddinas y Samariaid;
6
ond ewch yn hytrach at golledig ddefaid tŷ Israel.
7
Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Y mae Teyrnas Nefoedd wedi agoshau.
8
Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid: yn rhad y derbyniasoch, yn rhad rhoddwch.
9
Na feddwch aur, nac arian, nac efydd yn eich gwregysau,
10
nac ysgrepan i daith, na dwy wisg, na sandalau, na ffon; canys teilwng y gweithiwr o'i gynnaliaeth.
11
Ac i ba ddinas bynag neu bentref yr eloch, ymofynwch pwy ynddi sydd deilwng; ac yno aroswch hyd oni eloch allan.
12
Ac wrth ddyfod i'r tŷ, cyferchwch well iddo.
13
Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; eithr oni fydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.
14
A phwy bynag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau chwi, wrth fyned allan o'r tŷ hwnw neu o'r ddinas hono, ysgydwch ymaith lwch eich traed.
15
Yn wir meddaf i chwi, bydd yn fwy goddefadwy i dir Sodom a Gomorrha yn Nydd y Farn nag i'r ddinas hono.
16
Wele, myfi ydwyf yn eich danfon chwi allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid: byddwch gan hyny gall fel y seirff, a didwyll fel y colomenod.
17
Eithr ymogelwch rhag y dynion hyn: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau, ac yn eu Synagogau hwy a'ch fflangellant;
18
a chwi a ddygir at lywiawdwyr a breninoedd o'm hachos I, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenedloedd.
19
Eithr pan y'ch traddodant, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch.
20
Canys nid chwi sydd yn llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.
21
Yna brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u rhoddant i farwolaeth.
22
A chwi a gasheir gan bawb o herwydd fy enw I: eithr yr hwn a ymwrola hyd y diwedd, efe a fydd cadwedig.
23
A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i'r llall: canys yn wir meddaf i chwi, ni orphenwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y Dyn.
24
Nid yw y dysgybl yn uwch na'i athraw, a'r caethwas yn uwch na'i arglwydd.
25
Digon i'r dysgybl ddyfod fel ei athraw, a'r caethwas fel ei arglwydd. Os galwasant arglwydd y tŷ Beelzebwl, pa faint mwy ei deulu?
26
Am hyny nac ofnwch hwynt: canys nid oes dim cuddiedig a'r nas datguddir; a dirgel a'r nas gwybyddir.
27
Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar benau tai.
28
Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, a'r enaid nis gallant ei ladd; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddinystrio enaid a chorff yn Gehenna.
29
Oni werthir dau aderyn y tô am geiniog, ac ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tâd chwi:
30
ac y mae hyd y nod holl wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif.
31
Nac ofnwch gan hyny: chwi ydych yn fwy gwerthfawr na llawer o adar y tô.
32
Pob un, gan hyny, a'm cyffesa I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i cyffesaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.
33
Ond pwy bynag a'm gwado I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.
34
Na thybiwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddaethum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.
35
Canys daethum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
36
A gelynion dyn fydd ei deulu ei hun.
37
Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi: a'r hwn sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi.
38
A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw yn deilwng o honof fi.
39
Yr hwn sydd yn cael ei einioes a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegyd I a'i caiff hi.
40
Y sawl sydd yn eich derbyn chwi sydd yn fy nerbyn I, a'r sawl sydd yn fy nerbyn I sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd I.
41
Y sawl sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd a dderbyn wobr proffwyd; a'r sawl sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn a dderbyn wobr un cyfiawn.
42
A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn gwpanaid o ddwfr oer yn unig yn enw dysgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr o gwbl.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28