bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 17
Matthew 17
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Ac ar ol chwe' diwrnod y cymmerodd yr Iesu gyd ag ef Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu.
2
Ac efe a drawsffurfiwyd ger eu bron hwy; a'i wyneb a ddysglaeriodd fel yr haul, a'i ddillad a aethant cyn wyned â'r goleuni.
3
Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elias, yn ymddyddan ag ef.
4
A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, mi a wnaf yma dair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.
5
A thra yr oedd efe yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt; ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw fy Anwyl Fab, Yn yr hwn y'm boddlonwyd: Gwrandewch arno ef.
6
A phan glybu y Dysgyblion, hwy a syrthiasant ar eu gwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.
7
A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.
8
Ac wedi codi eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.
9
Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered allan o'r mynydd, yr Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb hyd oni chyfodir Mab y Dyn oddiwrth y meirw.
10
A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hyny, y mae yr Ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?
11
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Elias yn wir sydd yn dyfod, ac a edfryd bob peth.
12
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi ddyfod o Elias eisoes, ac nid ydynt wedi ei adnabod, ond a wnaethant iddo beth bynag a fynasant; felly y bydd hefyd i Fab y Dyn ddyoddef ganddynt.
13
Yna y deallodd y Dysgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.
14
Ac wedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, ac a syrthiodd ar ei liniau iddo,
15
ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, canys masglwyfus ydyw, ac y mae yn glaf iawn, canys yn fynych y mae efe yn syrthio i'r tân, ac yn fynych i'r dwfr.
16
Ac mi a'i dygais ef at dy Ddysgyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef.
17
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genedlaeth anffyddiog a throfäus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y byddaf ymarhöus wrthych? dygwch ef yma ataf fi.
18
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, a'r cythraul a aeth allan o hono ef; a'r bachgen a iachawyd o'r awr hono.
19
Yna y daeth y Dysgyblion at yr Iesu o'r neilldu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
20
Ac efe a ddywed wrthynt, O herwydd eich ychydig ffydd; canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai genych ffydd megys gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddiyma draw, ac efe a symmudai: ac ni fydd dim yn anmhossibl i chwi.
21
[Eithr nid ä y rhywogaeth hon allan ond drwy weddi ac ympryd.]
22
Ac fel yr oeddynt yn ymgasglu at eu gilydd yn Nghalilea, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn i gael ei draddodi i ddwylaw dynion;
23
a hwy a'i lladdant ef, a'r trydydd dydd y cyfodir ef. A hwy a aethant yn drist iawn.
24
Ac wedi dyfod o honynt i Capernäum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner‐sicl a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu yr hanner‐sicl?
25
Yntau a ddywed, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r ty, yr Iesu a'i rhagflaenodd ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Breninodd y ddaear, oddiwrth bwy y cymmerant drethi neu deyrnged? oddiwrth eu meibion eu hunain ynte oddiwrth estroniaid?
26
A phan ddywedodd efe, Oddiwrth estroniaid, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn sicr felly y mae y meibion yn rhyddion.
27
Er hyny, rhag i ni achosi tramgwydd iddynt, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei sicl, hwnw cymmer, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28