bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 22
Matthew 22
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
A'r Iesu a atebodd ac a lefarodd drachefn mewn dammegion wrthynt,
2
gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a wnaeth briodaswledd i'w fab,
3
ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodaswledd; ac ni fynent hwy ddyfod.
4
Trachefn efe a anfonodd weision ereill, gan ddywedyd, Dywedwch i'r gwahoddedigion, Wele, yr wyf wedi parotoi fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion ydynt wedi eu lladd, ac y mae pob peth yn barod: deuwch i'r briodaswledd.
5
A hwy yn esgeulus a aethant ymaith, un i'w faes ei hun, ac arall at ei fasnach.
6
A'r gweddill a ddaliasant ei weision ef, ac a ymddygasant yn warthus tuag atynt, ac a'u lladdasant.
7
Eithr y brenin oedd yn llidiog, ac a ddanfonodd ei fyddinoedd, ac a ddyfethodd y llofruddion hyny, ac a losgodd eu dinas hwynt.
8
Yna efe a ddywed wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddynt deilwng.
9
Ewch, gan hyny, i gydgyfarfyddiadau y prif‐ffyrdd, a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i'r briodaswledd.
10
A'r gweision hyny a aethant allan i'r prif‐ffyrdd, ac a gasglasant yn nghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd yr ystafell briodas o wahoddedigion.
11
A phan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwahoddedigion, efe a welodd yno ddyn nad oedd wedi gwisgo gwisg priodas.
12
Ac efe a ddywed wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost i fewn yma heb fod genyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.
13
Yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision, Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw, a bwriwch ef allan i'r tywyllwch eithaf. Yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
14
Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.
15
Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymmerasant gynghor fel y rhwydent ef yn ei ymadrodd.
16
Ac y maent yn danfon ato eu Dysgyblion yn nghyd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, a'th fod yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad ydwyt yn prisio am neb, oblegyd nid ydwyt yn edrych ar wyneb dynion.
17
Dywed i ni, gan hyny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
18
Ond yr Iesu yn gwybod eu drygioni hwy, a ddywed, Paham yr ydych yn fy nhemtio I, O ragrithwyr?
19
Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo ddenarion.
20
Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraff?
21
Hwy a ddywedant wrtho, Eiddo Cesar. Yna efe a ddywed wrthynt, Rhoddwch yn ol, gan hyny, eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw.
22
A phan glywsant, hwy a ryfeddasant, a chan ei adael, hwy a aethant ymaith.
23
Y dydd hwnw y daeth ato Saduceaid, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad, ac a ofynasant iddo,
24
gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, ei frawd a brioda ei wraig ef, ac a gyfoda hâd i'w frawd
25
Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth, a adawodd ei wraig i'w frawd.
26
Felly hefyd yr ail a'r trydydd, hyd y seithfed.
27
Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd.
28
Yn yr Adgyfodiad, gan hyny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys yr oll a'i cawsant hi.
29
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr Ysgrythyrau, na gallu Duw.
30
Canys yn yr Adgyfodiad nid ydynt yn priodi nac yn cael eu rhoi mewn priodas; eithr y maent fel angylion yn y Nef.
31
Ac am Adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,
32
Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw efe Dduw rhai meirw ond rhai byw.
33
A phan glybu y torfeydd, hwy a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef.
34
Ac wedi clywed o'r Phariseaid iddo roddi taw ar y Saduceaid, hwy a ymgynnullasant yn nghyd i'r un lle.
35
Ac un o honynt, cyfreithiwr, a'i holodd ef, gan ei brofi,
36
Athraw, pa orchymyn sydd fawr yn y Gyfraith?
37
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl.
38
Hwn yw y gorchymyn mawr a'r cyntaf.
39
Ac y mae ail yn gyffelyb iddo: Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.
40
Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl Gyfraith yn crogi a'r Proffwydi.
41
Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid yn nghyd, yr Iesu a'u holodd hwynt,
42
gan ddywedyd, Beth dybygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw? Dywedant wrtho, Mab Dafydd.
43
Yntau a ddywed wrthynt, Pa fodd gan hyny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44
Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed.
45
Os yw Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?
46
Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ei holi ef.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28