bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 26
Matthew 26
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
A bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, Efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
2
Chwi a wyddoch mai wedi deuddydd y mae y Pasc, a Mab y Dyn a draddodir i'w groeshoelio.
3
Yna yr ymgasglodd yr Archoffeiriaid, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:
4
a hwy a gydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.
5
Ond dywedasant, Nid yn yr wyl, rhag bod cynhwrf yn mhlith y bobl.
6
Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhy Simon, y gwahanglwyfus,
7
daeth ato wraig, a chanddi lestr alabastr o enaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, fel yr eisteddai wrth y bwrdd.
8
A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ffromasant, gan ddywedyd, I ba ddyben y golled hon?
9
Canys fe a allasid gwerthu hwn am lawer, a'i roddi i'r tlodion.
10
A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn peri blinder i'r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda mewn perthynas a mi.
11
Canys y mae genych y tlodion bob amser gyda chwi; eithr myfi ni chewch bob amser.
12
Canys hi yn tywallt yr enaint hwn ar fy nghorff, a'i gwnaeth ar gyfer fy nghladdu.
13
Yn wir meddaf i chwi, pa le bynag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, sonir am yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffadwriaeth am dani hi.
14
Yna yr aeth un o'r Deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Archoffeiriaid,
15
gan ddywedyd, Pa beth ydych yn foddlon i roddi i mi, a myfi i chwi a'i traddodaf ef? A hwy a bwysasant iddo ddeg ar hugain o arian
16
Ac o hyny allan yr oedd efe yn ceisio cyfleusdra i'w draddodi ef.
17
Ac ar ddydd cyntaf y Bara Croyw, y Dysgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi i ni barotoi i ti fwyta y Pasc?
18
Ac efe a ddywedodd, Ewch i'r Ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy adeg sydd yn agos: gyda thi y cadwaf y Pasc gyda'm Dysgyblion.
19
A'r Dysgyblion a wnaethant fel y trefnodd yr Iesu iddynt, ac a barotoisant y Pasc.
20
A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yn eistedd gyda'r Deuddeg Dysgybl.
21
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, y bradycha un o honoch fi.
22
A hwythau yn drist iawn a ddechreuasant ddywedyd wrtho, un ac un, Ai myfi ydyw, Arglwydd?
23
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, yr hwn a drochodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnw a'm bradycha I.
24
Mab y Dyn yn wir sydd yn ymadael, fel y mae wedi ei ysgrifenu am dano; eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu: Da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.
25
A Judas y Bradychwr a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi ydyw, Rabbi? Efe a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a fendithiodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.
27
Ac wedi iddo gymmeryd cwpan a diolch, efe a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:
28
Canys hwn yw fy ngwaed o'r Cyfammod, Yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer er maddeuant pechodau.
29
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o gwbl o hyn allan o gynnyrch hwn y winwydden hyd y dydd hwnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn Nheyrnas fy Nhad.
30
Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd.
31
Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir ynof fi y nos hon; canys y mae yn ysgrifenedig:— Tarawaf y bugail, A defaid y praidd a wasgerir ar led.
32
Eithr wedi fy adgyfodi, myfi a âf o'ch blaen chwi i Galilea.
33
A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb ynot ti, myfi ni rwystrir byth.
34
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, yn y nos hon, cyn canu o geiliog, teirgwaith ti a'm gwedi I.
35
Y mae Petr yn dywedyd wrtho, Pe angenrhaid i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd y dywedodd yr holl Ddysgyblion.
36
Yna y mae yr Iesu yn dyfod gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac y mae yn dywedyd wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf ymaith acw, a gweddio.
37
Ac efe a gymmerodd gydag Ef Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd fod yn drist ac yn drallodus iawn.
38
Yna y mae efe yn dywedyd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu: aroswch yma a gwyliwch gyda mi.
39
Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, O fy Nhad, os yw yn bossibl, aed heibio oddiwrthyf y cwpan hwn: etto nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40
Ac y mae efe yn dyfod at ei Ddysgyblion, ac yn eu cael yn cysgu, ac a ddywed wrth Petr, Beth! Oni ellwch chwi wylied un awr gyda mi?
41
Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod ond y cnawd sydd wan.
42
Drachefn, yr ail waith, efe a aeth ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.
43
Ac efe a ddaeth drachefn, ac a'u cafodd hwynt yn cysgu: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
44
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan lefaru yr un ymadrodd.
45
Yna y mae efe yn dyfod at y Dysgyblion, ac a ddywed wrthynt, Cysgwch yr amser sydd weddill, a gorphwyswch. Wele, y mae yr awr wedi neshau, a Mab y Dyn sydd yn cael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.
46
Codwch, awn; wele, neshaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47
Ac efe etto yn llefaru, wele Judas, un o'r Deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn oddiwrth yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl.
48
A'r hwn a'i bradychodd ef a roddodd iddynt arwydd, gan ddywedyd, Pa un bynag a gusanwyf, hwnw ydyw, deliwch ef.
49
Ac yn ebrwydd y daeth efe at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Rabbi, ac a'i cusanodd.
50
A'r Iesu a ddywedodd, Gydymaith, wele yr hyn y daethost o'i blegyd. Yna y daethant, ac y rhoddasant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
51
Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu a estynodd ei law, ac a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Archoffeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ef.
52
Yna y dywed yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le; canys pawb a'r a gymmerant gleddyf a ddyfethir â chleddyf.
53
Neu a wyt ti yn tybied nas gallaf ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yr awr hon i mi fwy na deuddeg lleng o angelion?
54
Pa fodd, gan hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod?
55
Yn yr awr hono y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megys at yspeiliwr y daethoch allan, â chleddyfau a ffyn, i'm cymmeryd i fyny? Yr oeddwn I beunydd yn y Deml yn eistedd ac yn dysgu; ac ni'm daliasoch.
56
Eithr hyn oll sydd wedi ei wneuthur fel y cyflawnir Ysgrythyrau y Proffwydi. Yna yr holl Ddysgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.
57
A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i harweiniasant ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad, lle yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd.
58
A Phetr oedd yn ei ganlyn ef o hirbell, hyd yn Llys yr Archoffeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd a'r swyddogion, i weled y diwedd.
59
A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor, oeddynt yn ceisio gau‐dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;
60
ac ni chawsant, er dyfod gau‐dystion lawer; eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau,
61
ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinystrio Cyssegr Duw, a'i adeiladu yn ystod tri diwrnod.
62
A chyfododd yr Arch‐offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn di?
63
Ond yr Iesu a dawodd. A'r Arch‐offeiriad a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dy osod ar lw drwy y Duw byw, fel y dywedi i ni, os tydi yw y Crist, Mab Duw?
64
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: er hyny, meddaf i chwi, O hyn allan y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.
65
Yna yr Arch‐offeiriad a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Efe a gablodd: paham y mae rhaid i ni bellach wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch y cabledd.
66
Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn haeddu marwolaeth.
67
Yna y poerasant i'w wyneb ef, ac a'i dyrnodiasant: eraill a'i cernodiasant,
68
gan ddywedyd, Proffwyda i ni, Tydi Grist, pwy yw yr hwn a'th darawodd di?
69
A Phetr oedd yn eistedd allan yn y Llys: a daeth morwynig ato, gan ddywedyd, A thithau oeddyt gyda Iesu y Galilead!
70
Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, gan ddywedyd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71
Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r porth, gwelodd morwynig arall ef, a hi a ddywed wrth y rhai oedd yno, Ac yr oedd hwn gyda Iesu y Nazaread!
72
A thrachefn efe a wadodd gyda llw, Nid adwaen I y dyn.
73
Ac yn mhen ychydig daeth y rhai oedd yn sefyll, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau hefyd yn un o honynt, canys y mae dy dafodiaith hefyd yn dy ddadguddio.
74
Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen I y dyn. Ac yn y man ceiliog a ganodd.
75
A chofiodd Petr y gair pan ddywedodd yr Iesu, Cyn cana ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28