bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 3
Matthew 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
Ac yn y dyddiau hyny y mae Ioan Fedyddiwr yn dyfod allan, gan bregethu yn Niffaethwch Judea,
2
gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau.
3
Oblegyd hwn yw efe y dywedwyd am dano drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd, “Llef un yn llefain, Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.”
4
Ac Ioan ei hun oedd a'i wisg o flew camel, a gwregys lledr o gylch ei lwynau, a'i fwyd oedd locustiaid a mel gwyllt.
5
Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,
6
a hwy a fedyddiwyd yn afon yr Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau.
7
A phan welodd efe lawer o'r Pharisëaid ac o'r Saducëaid yn dyfod i'w fedydd, efe a ddywedodd wrthynt, O epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid sydd ar ddyfod?
8
Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch.
9
Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad, canys yr wyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.
10
Ac yn barod y mae y fwyell yn cael ei gosod wrth wraidd y prenau; pob pren, gan hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr a'i daflu i dân.
11
Myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio chwi mewn dwfr i edifeirwch; eithr yr Hwn sydd yn dyfod ar fy ol I sydd gryfach nâ myfi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i'w dwyn, efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glan ac yn tân.
12
Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, ac efe a lwyr‐lanha ei lawr dyrnu, ac efe a gasgl ei yd i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
13
Yna y mae yr Iesu yn dyfod allan o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.
14
Eithr efe a fynai ei lwyr rwystro, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi?
15
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Caniata yn awr, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawnu pob cyfiawnder. Yna y mae efe yn caniatau iddo.
16
A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fyny oddiwrth y dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef;
17
ac wele lef allan o'r Nefoedd yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28