bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 4
Matthew 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r Anialwch gan yr Yspryd, i'w demtio gan y Diafol.
2
Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, o'r diwedd efe a newynodd.
3
A'r Temtiwr a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, llefara fel y byddo i'r cerryg hyn ddyfod yn dorthau.
4
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yn ysgrifenedig, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, Ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.”
5
Yna y mae y Diafol yn ei gymmeryd ef i'r Ddinas Sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y Deml,
6
ac a ddywed wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae yn ysgrifenedig, “I'w angylion y rhydd efe orchymyn am danat; Ac ar eu dwylaw y'th ddygant, Rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg.”
7
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Drachefn y mae yn ysgrifenedig, “Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.”
8
Drachefn y cymmer y Diafol ef i fynydd uchel iawn, ac a ddengys iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant;
9
ac a ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli I.
10
Yna y dywed yr Iesu wrtho, Ymaith, Satan, canys y mae yn ysgrifenedig, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi.”
11
Yna y mae y Diafol yn ei adael ef; ac wele, angelion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
12
A phan glybu efe draddodi Ioan, efe a giliodd i Galilea;
13
a chan adael Nazareth, efe a ddaeth ac a ymgartrefodd yn Nghapernäum, yr hon sydd wrth y môr, yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali:
14
fel cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
15
“Tir Zabulon, a thir Naphtali, Ger y mor, tuhwnt i'r Iorddonen, Galilea y Cenedloedd:
16
Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr, Ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, goleuni a gyfododd iddynt.”
17
O'r pryd hwnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau.
18
Ac yn rhodio wrth For Galilea, efe a welodd ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw taflrwyd i'r mor; canys pysgodwyr oeddynt.
19
Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch ar fy ol I, ac mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
20
A hwy yn ebrwydd a adawsant y rhwydau, ac a'i canlynasant ef.
21
Ac wrth fyned rhagddo oddiyno, efe a welodd ddau frodyr ereill, Iago, mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac efe a'u galwodd hwynt.
22
Ac yn ebrwydd gadawsant y cwch a'u tad, ac a'u canlynasant ef.
23
A'r Iesu a aeth o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl.
24
A'r son am dano a aeth allan trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai a ddelid gan amrywiol glefydau a doluriau, y rhai a feddiannid gan gythreuliaid, y rhai lloerig, a'r rhai parlysig; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
25
A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, o Decapolis, o Jerusalem, o Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28