bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 5
Matthew 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
Ac wrth weled y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei Ddysgyblion a ddaethant ato.
2
Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3
Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
4
Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddenir.
5
Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.
6
Gwyn eu byd y rhai a newynant ac a sychedant am gyfiawnder, canys hwy a ddiwellir.
7
Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwy a gânt drugaredd.
8
Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw.
9
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn feibion i Dduw.
10
Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu herlid o achos cyfiawnder, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
11
Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drwg yn eich herbyn (a hwy yn gelwyddog), o achos fy enw I.
12
Llawenhewch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y Nefoedd, canys felly yr erlidiasant y Proffwydi, y rhai fuont o'ch blaen chwi.
13
Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? Nid yw mwyach o unrhyw werth, ond i'w fwrw allan a'i sathru gan ddynion.
14
Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, nis gellir ei chuddio.
15
Ac ni oleuant lamp ac a'i gosodant dan y mesur‐lestr, ond ar y safbren, a hi a ddysgleiria ar bawb sydd yn y tŷ.
16
Felly, dysgleiried eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.
17
Na thybiwch fy nyfod i ddyddimu y Gyfraith neu y Proffwydi: ni ddaethum i ddyddimu, ond i gyflawnu.
18
Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, un iod neu un tipyn nid ä heibio o'r Gyfraith ddim, hyd oni chwblhaer oll.
19
Pwy bynag, gan hyny, a doro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn Nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynag a'u gwnelo ac a'u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd.
20
Canys meddaf i chwi, Oni fydd eich cyfiawnder yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i fewn i Deyrnas Nefoedd.
21
Clywsoch y dywedid wrth yr hynafiaid, “Na lofruddia; a phwy bynag a lofruddia a fydd agored i farn.”
22
Ond meddaf i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd a fydd yn agored i'r farn: a phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Y Dyhiryn! a fydd agored i'r Cynghor; a phwy bynag a ddywedo, O Ynfyd, a fydd agored i Gehenna o dân.
23
Gan hyny, os offrymi dy rodd ar yr allor, ac yno gofio fod gan dy frawd beth yn dy erbyn,
24
gad yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith, yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offryma dy rodd.
25
Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys tra fyddech gydag ef ar y ffordd; rhag un amser i'r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, a'r barnwr at yr is‐swyddog, a'th daflu i garchar.
26
Yn wir, meddaf i ti, Ni ddeui allan ddim oddiyno, hyd oni thalech y ffyrling ddiweddaf.
27
Clywsoch y dywedwyd, “Na wna odineb.”
28
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29
Ac os dy lygad deheu a bair i ti dramgwyddo, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i Gehenna.
30
Ac os dy law ddeheu a bair i ti dramgwyddo, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac nac eled dy holl gorff i Gehenna.
31
A dywedwyd, “Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.”
32
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, yn peru iddi gael ei chyfrif yn odinebwraig; a phwy bynag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith a odineba
33
Trachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, “Na thwng anudon, eithr tâl i'r Arglwydd dy lwon.”
34
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng o gwbl; nac i'r Nef, canys gorseddfa Duw ydyw;
35
nac i'r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Jerusalem, canys Dinas y Brenin Mawr ydyw.
36
Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu.
37
Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ïe; Nag ê, nag ê; a pha beth bynag sydd dros ben y rhai hyn, o'r drwg y mae.
38
Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, dant am ddant.”
39
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch yr hyn sydd ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro y llall iddo hefyd.
40
Ac i'r neb a fyno ymgyfreithio a thi, a dwyn dy wisg isaf, gad iddo dy wisg uchaf hefyd.
41
A phwy bynag a'th ddirgymhello i wasanaeth am un filldir, dos gydag ef ddwy.
42
Dyro i'r hwn a ofyno genyt; ac oddiwrth yr hwn a fenthycia genyt, na thro i ffwrdd.
43
Clywsoch y dywedwyd, “Car dy gymmydog, a chasha dy elyn” (Lef 19:17, 18).
44
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, a gweddiwch dros y rhai a'ch erlidiant;
45
fel y byddoch blant eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd; canys y mae efe yn peru i'w haul godi ar ddrwg a da, ac yn gwlawio ar gyfiawn ac annghyfiawn.
46
Oblegyd os cerwch y sawl a'ch carant, pa wobr a gewch? Oni wna y Trethgasglwyr yr un peth?
47
Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa beth rhagorach a wnewch? Oni wna y cenedloedd yr un peth?
48
Chwi a fyddwch, gan hyny, yn berffaith, fel y mae eich Tad Nefol yn berffaith.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28