bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 24
Matthew 24
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml.
2
Ac Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg a'r ni ddattodir.
3
Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad ac o Ddiwedd y byd?
4
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fyddo i neb eich camarwain chwi.
5
Canys llawer a ddeuant yn fy Enw I, gan ddywedyd, Myfi yw y Crist, ac a gamarweiniant laweroedd.
6
A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son am ryfeloedd: edrychwch, na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt fod, ond nid yw y diwedd etto.
7
Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newynoedd, a daeargrynfeydd mewn amryw fanau.
8
Y pethau hyn oll ydynt ddechreuad gwewyr esgor.
9
Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I.
10
Ac yna y rhwystrir llawer, ac a draddodant i fyny eu gilydd, ac a gashant eu gilydd.
11
A gau-broffwydi lawer a godant ac a gamarweiniant lawer.
12
Ac o herwydd yr amlha annghyfiawnder, fe oera cariad y llaweroedd.
13
Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig.
14
Ac Efengyl hon y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd.
15
Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth yr annghyfannedd-dra a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried).
16
Yna y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd.
17
Yr hwn a fyddo ar nen‐y‐tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau allan o'i dy.
18
A'r hwn fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl.
19
A gwae i'r beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny.
20
Ond gweddiwch fel na fyddo eich ffoedigaeth yn y Gauaf nac ar ddydd Sabbath.
21
Canys y pryd hwnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni fu o ddechreu y byd hyd yn awr, ac ni fydd chwaith.
22
A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny.
23
Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch.
24
Canys cyfyd gau‐Gristiau a gau-broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i gamarwain, os yn bosibl, hyd y nod yr Etholedigion.
25
Wele, yr wyf wedi rhagfynegu i chwi.
26
Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd dirgel, na chredwch.
27
Canys fel y daw y fellten allan o'r Dwyrain, ac a welir hyd y Gorllewin; felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
28
Pa le bynag bydd y gelain, yno yr ymgasgl yr Eryrod.
29
Yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r sêr a syrthiant o'r Nef, a galluoedd y Nefoedd a ysgydwir.
30
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr.
31
Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
32
Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos.
33
Felly chwithau hefyd, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.
34
Yn wir meddaf i chwi, Nid ä y genedlaeth hon heibio ddim hyd oni wneler hyn oll.
35
Y Nef a'r ddaear a ânt heibio, ond fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.
36
Ond am y dydd hwnw a'r awr nis gŵyr neb, nac Angelion y Nefoedd, na'r Mab, ond y Tad yn unig.
37
Canys fel yr oedd dyddiau Noah, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
38
Canys fel yr oeddent yn y dyddiau [hyny ] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch,
39
ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
40
Yna y bydd dau yn y maes: un a gymmerir ac un a adewir.
41
Dwy yn malu wrth y maen melin: un a gymmerir ac un a adewir.
42
Gwyliwch gan hyny, canys ni wyddoch ar ba ddydd y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43
Eithr gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y ty ar ba wyliadwriaeth y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai, ac ni oddefasai i'w dy gael ei gloddio trwodd.
44
O herwydd hyn, byddwch chwithau hefyd barod, canys yn yr awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
45
Pwy gan hyny yw y gwas ffyddlawn a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi iddynt fwyd mewn pryd?
46
Dedwydd fydd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47
Yn wir meddaf i chwi, Dros ei holl feddiannau y gesyd efe ef.
48
Ond os dywed y gwas drwg hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi;
49
a dechreu curo ei gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,
50
arglwydd y gwas hwnw a ddaw mewn dydd nad yw efe yn ei ddysgwyl, ac mewn awr nis gŵyr efe;
51
ac a'i fflangella yn erwin, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28