bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Matthew 27
Matthew 27
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan ddaeth y boreu, cydymgynghorodd yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.
2
Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i harweiniasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pilat y Rhaglaw.
3
Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu ddrwg ganddo, ac a ddychwelodd y deg ar hugain arian i'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid,
4
gan ddywedyd, Pechais trwy fradychu gwaed gwirion. Eithr hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Ti a edrychi at hyny.
5
Ac wedi iddo daflu yr arian i'r Cyssegr, efe a ymadawodd; ac efe a aeth ymaith, ac a ymdagodd.
6
A'r Arch‐offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn eu bwrw hwynt i'r Drysorfa Gyssegredig, canys pris gwaed ydynt.
7
Ac wedi iddynt gyd‐ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt Faes y Crochenydd, er bod yn gladdfa dyeithriaid.
8
Am hyny y galwyd y maes hwnw, Maes y Gwaed hyd heddyw.
9
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremiah y Proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg‐ar‐hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasai rhai o feibion Israel:
10
A hwy a'u rhoisant am Faes y Crochenydd, Megys yr ordeiniodd yr Arglwydd i mi.
11
A'r Iesu a osodwyd gerbron y Rhaglaw: a'r Rhaglaw a'i holodd ef, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
12
A phan gyhuddid ef gan yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, nid atebodd efe ddim.
13
Yna y dywed Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent yn dystiolaethu yn dy erbyn di?
14
Ac nid atebodd efe iddo hyd y nod un gair, fel y rhyfeddodd y Rhaglaw yn fawr.
15
Ac ar wyl yr arferai y Rhaglaw ryddhau un carcharor i'r bobl, yr hwn a fynent.
16
A'r pryd hwnw yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17
Wedi iddynt, gan hyny, ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? Barabbas ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist?
18
Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19
Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnw: canys dyoddefais heddyw lawer o bethau mewn breuddwyd o'i achos ef.
20
A'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a gymhellasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y dyfethent yr Iesu.
21
A'r Rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabbas.
22
A Philat a ddywed wrthynt, Pa beth gan hyny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedant, Croeshoelier ef.
23
Ac efe a ddywedodd, Wel, pa ddrwg a wnaeth efe? Eithr hwy a lefasant yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
24
Felly Pilat pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynhwrf yn cyfodi, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, Diniwed ydwyf fi o waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.
25
A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed Ef arnom ni ac ar ein plant.
26
Yna efe a ryddhaodd iddynt Barabbas; eithr yr Iesu a fflangellodd efe, ac a draddododd i'w groeshoelio.
27
Yna milwyr y Rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r Palas Ymherodrol, ac a gynullasant ato yr holl gatrawd.
28
A hwy a'i diosgasant Ef, ac a roisant am dano Ef fantell o ysgarlad.
29
Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben Ef, a chorsen yn ei law ddeheu; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron Ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Ti Frenin yr Iuddewon.
30
A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i tarawsant Ef ar ei ben.
31
Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant Ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant Ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant Ef ymaith i'w groeshoelio.
32
Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a orfodasant, fel y dygai ei groes.
33
A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle Penglog,
34
hwy a roisant iddo i'w yfed win yn gymmysgedig â wermod; ac wedi ei brofi, ni fynodd Efe yfed.
35
Ac wedi iddynt ei groeshoelio Ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren.
36
A chan eistedd i lawr, hwy a'i gwyliasant Ef yno.
37
A gosodasant uwch ei ben Ef ei gyhuddiad yn ysgrifenedig, Hwn yw Iesu, Brenin yr Iuddewon.
38
Yna y croeshoelir gydag Ef ddau yspeiliwr, un ar y llaw ddeheu, ac un ar y llaw aswy.
39
A'r rhai oeddynt yn myned heibio oeddynt yn ei gablu Ef,
40
gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y Cyssegr, ac mewn tridiau a'i adeiledi, gwared dy hun: os Mab Duw ydwyt ti, disgyn oddiar y groes.
41
A'r un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r Ysgrifenyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant,
42
Ereill a waredodd Efe, ei hun nis gall Efe waredu. Brenin Israel yw: disgyned yr awrhon oddiar y groes, ac ni a gredwn arno.
43
Y mae yn ymddiried yn Nuw: gwareded Efe Ef yr awrhon, os myn Efe Ef; canys Efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf fi.
44
A'r un peth hefyd a edliwiodd yr yspeilwyr iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd ag Ef.
45
Ac o'r chweched awr yr oedd tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
46
Ac yn nghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lema sabachthani; yr hyn yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm llwyr adewaist.
47
A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw Elias.
48
Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd Ef.
49
Eithr y lleill a ddywedasant, Aros, edrychwn a ydyw Elias yn dyfod i'w waredu Ef.
50
A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.
51
Ac wele, Llen y Cyssegr a rwygwyd oddifyny i waered yn ddau; a'r ddaear a grynodd; a'r creigiau a rwygwyd,
52
a'r beddau a agorwyd, a llawer o gyrff y saint a hunasant a gyfodwyd;
53
ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei Gyfodiad Ef, ac a aethant i mewn i'r Ddinas Sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.
54
A'r Canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a ddygwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd Mab Duw oedd hwn.
55
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn syllu o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef.
56
Yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joseph, a mam meibion Zebedëus.
57
A phan ddaeth yr hwyr, daeth gwr goludog o Arimathëa, a'i enw Joseph, yr hwn ei hun hefyd a wnaed yn ddysgybl i'r Iesu.
58
Hwn a ddaeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. Yna Pilat a orchymynodd ei roddi i fyny.
59
A chan gymmeryd y corff, Joseph a'i hamdôdd mewn llian glân,
60
ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, efe a aeth ymaith.
61
A Mair Magdalen oedd yno, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62
A thranoeth, yr hwn sydd ar ol dydd y Darpariad, ymgasglodd yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid at Pilat,
63
gan ddywedyd, Arglwydd, daeth i'n cof ddywedyd o'r Twyllwr hwnw, tra yr oedd efe etto yn fyw, Wedi tridiau yr wyf yn cyfodi.
64
Gorchymyn gan hyny i'r bedd gael ei wneyd yn ddyogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o'i Ddysgyblion a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.
65
Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch warcheidwaid: ewch ymaith; gwnewch mor ddyogel ag y medrwch.
66
A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddyogel, ac a seliasant y maen, gyda'r gwarcheidwaid.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28