bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 1
Exodus 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 2 →
1
Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a'i deulu.
2
Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda,
3
Issachar, Sabulon, a Benjamin,
4
Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser.
5
A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.
6
A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.
7
A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a'r wlad a lanwyd ohonynt.
8
Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff.
9
Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.
10
Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fyny o'r wlad.
11
Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i'w gorthrymu â'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
12
Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel.
13
A'r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.
14
A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy'r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.
15
A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:
16
Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17
Er hynny y bydwragedd a ofnasant DDUW, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18
Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19
A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.
20
Am hynny y bu DUW dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21
Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni DUW, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.
22
A Pharo a orchmynnodd i'w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40