bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 18
Exodus 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 19 →
1
Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai DUW i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o'r ARGLWYDD Israel allan o'r Aifft;
2
Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,)
3
A'i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol.
4
Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd DUW fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.
5
A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â'i feibion a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd DUW.
6
Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a'th wraig a'i dau fab gyda hi.
7
A Moses a aeth allan i gyfarfod â'i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a'i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i'w gilydd: a daethant i'r babell.
8
A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharo ac i'r Eifftiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r ARGLWYDD hwynt.
9
A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid.
10
A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.
11
Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr ARGLWYDD na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
12
A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i DDUW: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron DUW.
13
A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.
14
A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?
15
A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â DUW.
16
Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau DUW a'i gyfreithiau.
17
A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.
18
Tydi a lwyr ddiffygi, a'r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw'r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.
19
Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a'th gynghoraf di, a bydd DUW gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron DUW, a dwg eu hachosion at DDUW.
20
Dysg hefyd iddynt y deddfau a'r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a'r gweithredoedd a wnânt.
21
Ac edrych dithau allan o'r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni DUW, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd‐dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
22
A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi.
23
Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o DDUW i ti; yna ti a elli barhau, a'r holl bobl hyn a ddeuant i'w lle mewn heddwch.
24
A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.
25
A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a'u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
26
A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.
27
A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i'w wlad.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40