bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 24
Exodus 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 25 →
1
Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a'r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
2
Ac aed Moses ei hun at yr ARGLWYDD; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3
A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr ARGLWYDD, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD.
4
A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr ARGLWYDD; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.
5
Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i'r ARGLWYDD.
6
A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a'i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
7
Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a'i darllenodd lle y clywai'r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD.
8
A chymerodd Moses y gwaed, ac a'i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9
Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.
10
A gwelsant DDUW Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.
11
Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant DDUW, a bwytasant ac yfasant.
12
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Tyred i fyny ataf i'r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i'w dysgu hwynt.
13
A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd DUW.
14
Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.
15
A Moses a aeth i fyny i'r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd.
16
A gogoniant yr ARGLWYDD a arhodd ar fynydd Sinai, a'r cwmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.
17
A'r golwg ar ogoniant yr ARGLWYDD oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.
18
A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i'r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40