bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 21
Exodus 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 22 →
1
Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.
2
Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a'r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.
3
Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef.
4
Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a'i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.
5
Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a'm plant; nid af fi allan yn rhydd:
6
Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a'i gwasanaetha ef byth.
7
Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.
8
Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.
9
Ac os i'w fab y dyweddiodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched.
10
Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na'i dyled priodas.
11
Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12
Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.
13
Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o DDUW ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.
14
Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i'w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15
Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
16
Yr hwn a ladratao ddyn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.
17
Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.
18
A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;
19
Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
20
Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno.
21
Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.
22
Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.
23
Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,
24
Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
25
Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.
26
Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:
27
Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28
Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.
29
Ond os yr ych oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.
30
Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.
31
Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.
32
Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i'w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.
33
Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn;
34
Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i'w perchennog; a'r anifail marw a fydd iddo yntau.
35
Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a'r ych marw a rannant hefyd.
36
Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40