bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 35
Exodus 35
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 36 →
1
Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eu gwneuthur.
2
Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r ARGLWYDD: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.
3
Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.
4
A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
5
Cymerwch o'ch plith offrwm yr ARGLWYDD: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r ARGLWYDD; aur, ac arian, a phres,
6
A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,
7
A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
8
Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd,
9
A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.
10
A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD;
11
Y tabernacl, ei babell‐len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,
12
Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,
13
Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,
14
A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni,
15
Ac allor yr arogl‐darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,
16
Allor y poethoffrwm a'i halch bres, ei throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,
17
Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,
18
Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,
19
A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.
20
A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.
21
A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.
22
A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r ARGLWYDD.
23
A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.
24
Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.
25
A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
26
A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.
27
A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;
28
A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd.
29
Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r ARGLWYDD trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r ARGLWYDD offrwm ewyllysgar.
30
A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr ARGLWYDD erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda:
31
Ac a'i llanwodd ef ag ysbryd DUW, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;
32
I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,
33
Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.
34
Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.
35
Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40