bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 3
Exodus 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 4 →
1
A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o'r tu cefn i'r anialwch, ac a ddaeth i fynydd DUW, Horeb.
2
Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa.
3
A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw'r berth wedi llosgi.
4
Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.
5
Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.
6
Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar DDUW.
7
A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
8
A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.
9
Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â'r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt.
10
Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o'r Aifft.
11
A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aifft?
12
Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn.
13
A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?
14
A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a'm hanfonodd atoch.
15
A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a'm hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
16
Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.
17
A dywedais, Mi a'ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
18
A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i'r anialwch, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.
19
A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.
20
Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â'm holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a'ch gollwng chwi ymaith.
21
A rhoddaf hawddgarwch i'r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;
22
Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a'u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40