bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 10
Exodus 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 11 →
1
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:
2
Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a'm harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
3
A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
4
Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i'th fro;
5
A hwynt‐hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear: a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.
6
Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo.
7
A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr ARGLWYDD eu DUW: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aifft?
8
A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW: ond pa rai sydd yn myned?
9
A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; â'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD
10
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r ARGLWYDD gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.
11
Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo.
12
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a'r a adawodd y cenllysg.
13
A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r ARGLWYDD a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
14
A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.
15
Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.
16
Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW, ac yn eich erbyn chwithau.
17
Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr ARGLWYDD eich DUW, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
18
A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.
19
A'r ARGLWYDD a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft.
20
Er hynny caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
21
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo.
22
A Moses a estynnodd ei law tua'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod.
23
Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24
A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD; arhoed eich defaid, a'ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi.
25
A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.
26
Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr ARGLWYDD ein DUW: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr ARGLWYDD, hyd oni ddelom yno.
27
Ond yr ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.
28
A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.
29
A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40