bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 29
Exodus 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 30 →
1
Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i'w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymer un bustach ieuanc, a dau hwrdd perffeithgwbl,
2
A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.
3
A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
4
Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
5
A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.
6
A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr.
7
Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.
8
A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.
9
A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a'i feibion.
10
A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.
11
A lladd y bustach gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12
A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.
13
Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
14
Ond cig y bustach, a'i groen, a'i fiswail, a losgi mewn tân, o'r tu allan i'r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15
Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
16
A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.
17
A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt ynghyd â'i ddarnau, ac â'i ben.
18
A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i'r ARGLWYDD yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i'r ARGLWYDD yw.
19
A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
20
Yna lladd yr hwrdd, a chymer o'i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella'r gwaed arall ar yr allor o amgylch.
21
A chymer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef.
22
Cymer hefyd o'r hwrdd, y gwêr a'r gloren, a'r gwêr sydd yn gorchuddio'r perfedd, a rhwyden yr afu, a'r ddwy aren, a'r gwêr sydd arnynt, a'r ysgwyddog ddeau; canys hwrdd cysegriad yw:
23
Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd gerbron yr ARGLWYDD.
24
A dod y cwbl yn nwylo Aaron, ac yn nwylo ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
25
A chymer hwynt o'u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD: aberth tanllyd i'r ARGLWYDD yw.
26
Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; a'th ran di fydd.
27
A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a'r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o'r hwn a fyddo dros Aaron, ac o'r hwn a fyddo dros ei feibion.
28
Ac eiddo Aaron a'i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o'u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD.
29
A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i'w feibion ar ei ôl ef, i'w heneinio ynddynt, ac i'w cysegru ynddynt.
30
Yr hwn o'i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a'u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.
31
A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.
32
A bwytaed Aaron a'i feibion gig yr hwrdd, a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
33
A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i'w cysegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.
34
Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o'r bara, hyd y bore; yna ti a losgi'r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.
35
A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.
36
A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.
37
Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.
38
A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
39
Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.
40
A chyda'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm.
41
A'r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i'w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD:
42
Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
43
Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44
A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45
A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn DDUW iddynt.
46
A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a'u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40