bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 26
Exodus 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
1
Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
2
Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i'r holl lenni.
3
Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.
4
A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.
5
Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.
6
Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â'r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.
7
A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.
8
Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.
9
A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len.
10
A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.
11
A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma'r babell‐len, fel y byddo yn un.
12
A'r gweddill a fyddo dros ben o lenni'r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl;
13
Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu acw, i'w orchuddio.
14
A gwna do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
15
A gwna i'r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.
16
Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.
17
Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau'r tabernacl.
18
A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.
19
A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
20
A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,
21
A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22
Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23
A dwy ystyllen a wnei i gonglau'r tabernacl, yn y ddau ystlys.
24
A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.
25
A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26
Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
27
A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tua'r gorllewin.
28
A'r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.
29
Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30
A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31
A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.
32
A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33
A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf.
34
Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.
35
A gosod y bwrdd o'r tu allan i'r wahanlen, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd ar y tu deau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du'r gogledd.
36
A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith.
37
A gwna i'r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40