bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 30
Exodus 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 31 →
1
Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi.
2
Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o'r un.
3
A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.
4
A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.
5
A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.
6
A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.
7
Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe.
8
A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD, trwy eich cenedlaethau.
9
Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni.
10
A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i'r ARGLWYDD yw hi.
11
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
12
Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i'r ARGLWYDD, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.
13
Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i'r ARGLWYDD.
14
Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i'r ARGLWYDD.
15
Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
16
A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
17
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
18
Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.
19
A golched Aaron a'i feibion ohoni eu dwylo a'u traed.
20
Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i'r ARGLWYDD.
21
Golchant eu dwylo a'u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i'w had, trwy eu cenedlaethau.
22
Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
23
Cymer i ti ddewis lysiau, o'r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o'r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o'r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;
24
Ac o'r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden.
25
A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.
26
Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,
27
Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r canhwyllbren a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth.
28
Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.
29
A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.
30
Eneinia hefyd Aaron a'i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi.
31
A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau.
32
Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.
33
Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a'r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
34
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.
35
A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd‐dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.
36
Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.
37
A'r arogl‐darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
38
Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40