bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 13
Exodus 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 14 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
3
A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr ARGLWYDD chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.
4
Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.
5
A phan ddygo'r ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.
6
Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.
7
Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.
8
A mynega i'th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft, y gwneir hyn.
9
A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr ARGLWYDD yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD dydi allan o'r Aifft.
10
Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.
11
A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a'i rhoddi i ti,
12
Yna y neilltui i'r ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr ARGLWYDD fyddant.
13
A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o'th feibion a bryni di hefyd.
14
A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed.
15
A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o'm meibion a brynaf.
16
A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft.
17
A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr ARGLWYDD hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd DUW, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.
18
Ond DUW a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
19
A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, DUW a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.
20
A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch.
21
A'r ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos.
22
Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40