bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 14
Exodus 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 15 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal‐seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr.
3
Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt.
4
A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharo, a'i holl fyddin; a'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. Ac felly y gwnaethant.
5
A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a'i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?
6
Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef.
7
A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt.
8
A'r ARGLWYDD a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
9
A'r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal‐seffon.
10
A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD.
11
A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aifft?
12
Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu'r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.
13
A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr ARGLWYDD, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
14
Yr ARGLWYDD a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
15
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.
16
A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
17
Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion.
18
A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan y'm gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.
19
Ac angel DUW, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hôl hwynt.
20
Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
21
A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a'r ARGLWYDD a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
22
A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.
23
A'r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.
24
Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr ARGLWYDD a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid.
25
Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr ARGLWYDD sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.
26
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.
27
A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r ARGLWYDD a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr.
28
A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i'r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un.
29
Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.
30
Felly yr ARGLWYDD a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr.
31
A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid: a'r bobl a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a gredasant i'r ARGLWYDD, ac i'w was ef Moses.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40