bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 38
Exodus 38
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 39 →
1
Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder.
2
Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un; ac efe a'i gwisgodd hi â phres.
3
Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.
4
Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.
5
Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion.
6
Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt â phres.
7
Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8
Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9
Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd:
10
A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.
11
Ac ar du'r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian.
12
Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.
13
Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.
14
Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais.
15
Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.
16
Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd.
17
A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.
18
A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a'i huchder o'i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni'r cynteddfa.
19
Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian.
20
A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.
21
Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.
22
A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
23
A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main.
24
Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr.
25
Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr.
26
Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
27
Ac o'r can talent arian y bwriwyd morteisiau'r cysegr, a morteisiau'r wahanlen; can mortais o'r can talent, talent i bob mortais.
28
Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.
29
A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.
30
Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri'r allor;
31
A morteisiau'r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40